
Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil -Caerdydd
Shelter Cymru yw’r elusen pobl a chartrefi yng Nghymru.
Rydym yn gweithio dros bobl ag angen o ran tai trwy ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol a di-dâl yn ymwneud â thai, ac rydym yn ymgyrchu i ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl yng Nghymru rhag cael cartref addas, diogel.
Dewch i weithio gyda ni a’n helpu i drechu digartrefedd yng Nghymru.
Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil
SWYDDFA CAERDYDD
RHIF SWYDD: SC474
21 awr yr wythnos
£19,500 y flwyddyn (pro rata)
Dyma gyfle rhagorol i weithio i dîm polisi ac ymchwil Shelter Cymru. Rydym yn chwilio am unigolyn i gynorthwyo’r Cydgysylltydd Prosiect i gyflwyno’r rhaglen ymchwil, polisi a gwella gwasanaethau i atal digartrefedd, sydd wedi’i hariannu gan Sefydliad Oak. Rydym yn annog pobl â phrofiad blaenorol o ddigartrefedd neu broblemau tai i wneud cais. Bydd profiad o waith ymchwil yn fanteisiol.
Mae’r buddion yn cynnwys 29 diwrnod o wyliau blynyddol ar gyfer staff amser llawn a dau ddiwrnod Shelter Cymru consesiynol, ynghyd â chyfleoedd datblygiad proffesiynol a dysgu proffesiynol.
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
DYDDIAD CAU: 1 Mai 2019
Mae Shelter Cymru yn herio gwahaniaethu yn ei holl feysydd gwaith ac arferion cyflogaeth.
Rhif Elusen Gofrestredig: 515902
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.