
Gwasanaethau Llawfeddygaeth Thorasig yn Ne Cymru – Ymgynghoriad Cyhoeddus (Diweddariad)
Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau adolygiad canolbwynt o’r ymgynghoriad hwn ac mae adroddiad sy’n crynhoi’r broses a’r ymatebion i’w weld ar y wefan www.whssc.wales.nhs.uk/thoracic-surgery-services-in-south-wales
Ymgynghoriad Cyhoeddus
Hoffem gael eich barn ar y cynnig i leoli canolfan llawdriniaeth thorasig oedolion yn Ysbyty Treforys yn Abertawe a fydd yn gwasanaethu cleifion o de a gorllewin Cymru a de Powys.
- Ym mis Ionawr 2018, cymeradwyodd y Cydbwyllgor yr argymhelliad a wnaed gan Fwrdd Prosiect Adolygu Llawdriniaeth Thorasig i ddarparu llawdriniaethau thorasig o ganolfan sengl yn Ne Cymru.
- Derbyniodd y Cydbwyllgor yr argymhelliad a wnaed gan Banel Annibynnol i leoli’r ganolfan sengl yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar yr 27 Awst 2018.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ogystal â ffurflen adborth ar-lein yn www.whssc.wales.nhs.uk/thoracic-surgery-services-in-south-wales.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.