Iechyd Cyhoeddus Cymru Negeseuon Whatapp COVID-19

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Negeseuon Whatapp

A ydych yn arweinydd cymunedol neu rwydwaith? A fyddech yn cael budd o dderbyn y negeseuon diweddaraf am COVID-19, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau, yn uniongyrchol i’ch ffôn symudol ac yn barod i’w hanfon i’ch rhwydwaith?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ehangu ei fformat negeseuon WhatsApp drwy ei anfon yn uniongyrchol at arweinwyr rhwydwaith sy’n gweithredu ar sianeli fel Whatsapp, Facebook messenger, Slack a mwy.

Os hoffech dderbyn y negeseuon hyn, cysylltwch â ni yn PHW.Covid19Comms@wales.nhs.uk a rhowch wybod i ba rif ffôn symudol yr hoffech i ni anfon y negeseuon iddo, y sefydliad/grŵp cymunedol yr ydych yn gweithio gyda nhw ac ym mha le.

Rhowch COVID19 WhatsApp yn deitl ar gyfer y neges e-bost.