
Ymgynghoriad: Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru 2012
Mae’r Cyngor Gofal yn ymgynghori ar fersiwn diwygiedig o’r Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Diben yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau bod y fframwaith cymwysterau yn adlewyrchu rolau ac anghenion cyfredol y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw Dydd Gwener 10fed o Awst.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar wefan y Cyngor Gofal. http://www.cgcymru.org.uk/ymgynghoriadau-cyfoes/?force=2
Mae’r Cyngor Gofal yn croesawu’ch sylwadau’n fawr iawn ac mae croeso i chi anfon y wybodaeth hon at unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn rhoi adborth i ni. Gellir anfon sylwadau ar ran sefydliad, gwasanaeth, tîm neu unigolyn. Gellir cyflwyno adborth ar-lein neu drwy’r post, gan ddefnyddio cwestiynau’r ymgynghoriad ar dudalen 50 neu mewn fformat arall os fyddai hynny’n well gennych.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn derbyn y gwahoddiad i gyfrannu at yr ymgynghoriad ac yn ein helpu i gytuno ar fframwaith sy’n diwallu anghenion y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r bobl sy’n derbyn cymorth.
Cyngor Gofal Cymru
Care Council for Wales
6ed Llawr/6th Floor
Adain y Gorllewin/West Wing
Southgate House
Wood Street
Caerdydd/Cardiff
CF10 1EW
Ffôn/Tel: 02920 780685
Email: gethin.white@ccwales.org.uk