To return to the News Listing use your back button or click here.
The Rowan Organisation~4 posts 29/06/09
Posted on 12 June 2009
Cynllun Cefnogi Taliadau Uniongyrchol
Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Cynigir cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Mae’r Rowan Organisation yn gorff a sefydlwyd o bobl anabl gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn www.therowan.org.
Mae’r swyddi hyn wedi eu lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerfyrddin.
Dyddiad cau: Llun 29ain Mehefin 2009 am hanner dydd
Mae’n hanfodol ar gyfer y swyddi hyn eich bod yn rhugl mewn Cymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig.
Uwch Gynghorydd Byw’n Annibynnol
Graddfa 6 £22001 – £23473 y flwyddyn pro rata. Rhan amser (18.5 awr yr wythnos) dyfarniad cyflog i ddod a chynllun talebau plant.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gyda hunan-gymhelliad, sy’n ymroddedig i sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfle cyfartal a dewis gwirioneddol o ran sut maent yn byw eu bywydau. Bydd gan y person a benodir sgiliau rheoli o ddydd i ddydd, profiad o weithio mewn rôl gefnogol a’r gallu i gynghori defnyddwyr gwasanaeth ar holl agweddau Byw’n Annibynnol gan gynnwys rheoli eu Cynorthwywyr Personol eu hunain a gofynion gweinyddol Cynllun Cefnogi Taliadau Uniongyrchol. Mae angen gwybodaeth o faterion anabledd a’r ddeddfwriaeth berthnasol ynghyd â phrofiad o oruchwylio staff.
Cynorthwyydd Gweinyddol (3 swydd)
Graddfa 3 £15570- £16663 y flwyddyn pro rata,
Rhan amser (18.5 awr yr wythnos) dyfarniad cyflog i ddod a chynllun talebau plant.
Bydd gennych safonau llythrennedd a rhifedd da yn ychwanegol at sgiliau cyfathrebu, gweinyddol/clerigol ac arddull dda ar y ffôn. Mae sgiliau bysellfwrdd, profiad o ddata-basau gan gynnwys Access, a medru gweithio gyda ffigurau gan gynnwys PAYE a system gyflogau Sage yn hanfodol. Rhaid i chi fedru gweithio heb oruchwyliaeth agos a dangos y medrwch weithio ar eich pen eich hun.
Cysylltwch â Samantha Jenkins trwy e-bost neu ar y ffôn ar 02476 322860 (minicom 02476 374439) neu ysgrifennwch at The Rowan Organisation, Eliot Park Innovation Centre, Barling Way, Nuneaton, CV10 7RH. Fel arall, medrwch ymweld â www.therowan.org lle mae’r pecyn cais llawn hefyd ar gael.

Discussion Area - Submit a comment
Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.