
Mae’r Samariaid wedi lansio llinell gymorth newydd i weithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae’r Samariaid wedi lansio llinell gymorth gyfrinachol newydd i weithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae eu gwirfoddolwyr yma i’ch cefnogi pan rydych wedi cael diwrnod caled, yn teimlo’n bryderus neu wedi’ch gorlethu, neu os oes llawer o bethau’n pwyso ar eich meddwl a’ch bod eisiau siarad amdano.
Weithiau, gall llais cyfeillgar, amser i feddwl a chlust i wrando wneud byd o wahaniaeth.
Mae’n bwysicach nawr nag erioed ein bod ni’n edrych ar ôl ein hunain a’n gilydd.
Ffoniwch y llinell gymorth gyfrinachol ddi-dâl
08004840555
Ar agor bob dydd, 7am i 11pm
Ffoniwch y llinell gymorth gyfrinachol ddi-dâl yn Gymraeg
08081642777
Ar agor bob nos, 7pm i 11pm
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.