[lang_en]Shared Earth Trust New Trustees – Can you Help Us?[/lang_en][lang_cy]Shared Earth Trust Ymddiriedolwyr Newydd – A allwch chi ein helpu?[/lang_cy]
[lang_en]The Shared Earth Trust is an Environmental Charity which exists to educate people about the importance of biodiversity. The Charity, based at the Denmark Farm Conservation Centre outside Lampeter, is run by a Board of volunteer Trustees who assist the staff in setting our direction and making sure we fulfil our charitable objectives.
We are now looking to strengthen the Board by the appointment of at least two new Trustees. The present Trustees have a variety of backgrounds and areas of expertise. Individual members take the lead on various respective issues, e.g. finance, conservation, legal. However, it is important that all Trustees are able to work collaboratively as team players. We particularly welcome expressions of interest from people with experience in HR, fundraising or in marketing. The Trustees normally have four weekday afternoon meetings a year at Denmark Farm, with other contact by e-mail and phone.
If you think you could assist us with this important work then please write to the Chairman of the Trustees, Terry Mills, at the Denmark Farm address telling us about your skills and experience and how you could help us. If you would like an informal chat first with the Trust’s Coordinator, please call Malcolm Magee on 01570 493358.
You can find out more about the Trust at http://www.shared-earth-trust.org.uk and on the Charity Commission Web site at http://www.charity-commission.gov.uk (Charity Number 1004002).
We look forward to hearing from you.
Shared Earth Trust, Denmark Farm Conservation Centre, Betws Bledrws, Lampeter, Ceredigion, SA48 8PB
[/lang_en]
[lang_cy]
Elusen Amgylcheddol yw Ymddiriedolaeth Shared Earth sy’n bodoli i addysgu pobl am bwysigrwydd bioamrywiaeth. Rheolir yr Elusen, sydd â’i chartref yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm Denmark y tu allan i Lanbedr Pont Steffan, gan Fwrdd Ymddiriedolwyr gwirfoddol sy’n cynorthwyo’r staff wrth bennu ein cyfeiriad ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion elusennol.
Rydym bellach yn ceisio cryfhau’r Bwrdd trwy benodi o leiaf ddau Ymddiriedolwr newydd. Daw’r Ymddiriedolwyr presennol o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent yn arbenigo mewn gwahanol feysydd. Mae aelodau unigol yn arwain ar wahanol faterion penodol, e.e. cyllid, cadwraeth a’r gyfraith. Fodd bynnag, mae’n bwysig y gall yr holl Ymddiriedolwyr gydweithio fel tîm. Rydym yn croesawu’n arbennig ddiddordeb gan bobl sydd â phrofiad ym meysydd Adnoddau Dynol, codi arian neu farchnata. Fel arfer, mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn y prynhawn yn ystod yr wythnos bedair gwaith y flwyddyn yn Fferm Denmark, gan gysylltu â’i gilydd hefyd trwy e-bost a’r ffôn.
Os ydych yn meddwl y gallech ein cynorthwyo â’r gwaith pwysig hwn ysgrifennwch at Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Terry Mills, yn Fferm Denmark, gan ddweud wrthym am eich sgiliau, eich profiad a sut y gallech ein helpu. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol yn gyntaf â Chydgysylltydd yr Ymddiriedolaeth, ffoniwch Malcolm Magee ar 01570 493358.
Gallwch gael gwybod mwy am yr Ymddiriedolaeth ar http://www.shared-earth-trust.org.uk ac ar wefan y Comisiwn Elusennau ar http://www.charity-commission.gov.uk (Rhif Elusen 1004002).
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.
Shared Earth Trust, Denmark Farm Conservation Centre, Betws Bledrws, Lampeter, Ceredigion, SA48 8PB
[/lang_cy]
info@shared-earth-trust.org.uk
01570 493358