
Shelter Cymru: Swyddog Ceisiadau Grantiau Cleientiaid
Elusen pobl a chartrefi yng Nghymru yw Shelter Cymru, sy’n ymroi i atal digartrefedd,
gwella cyflwr tai, a sicrhau bod gan bawb yr hawl i fwynhau
lle diogel, addas a fforddiadwy i fyw.
Rydym ni’n chwilio am rywun ar gyfer y swydd ganlynol i ymuno â’n tîm. Os ydych
chi am helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, hoffem glywed gennych.
SWYDDOG CEISIADAU GRANTIAU CLEIENTIAID
SWYDDFA CAERDYDD
RHIF SWYDD: SC484
14 awr yr wythnos
£20,801 y flwyddyn (pro rata)
Dyma gyfle newydd yn Shelter Cymru, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi ein Gweithwyr Achos Cyfraith Tai yn y De drwy gyflwyno ceisiadau grantiau cleientiaid a datblygu a diweddaru cronfeydd data i fonitro a chofnodi’r wybodaeth hon.
Mae Shelter Cymru’n cynnig telerau ac amodau hael, yn cynnwys 29 diwrnod o wyliau blynyddol i aelodau staff llawn amser ynghyd â 2 ddiwrnod braint ychwanegol Shelter Cymru
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
Dyddiad Cau: 10:00AM – 11 MEHEFIN 2019
Mae Shelter Cymru yn herio gwahaniaethu yn ei holl feysydd gwaith ac arferion cyflogaeth.
Rhif Elusen 515902
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.