
Shelter Cymru: Cynghorydd Prosiect Dyled
Shelter Cymru yw’r elusen pobl a chartrefi yng Nghymru sy’n gweithio i atal digartrefedd, gwella amodau tai, a hawl pawb i gael cartref diogel, addas a fforddiadwy.
Rydym am recriwtio rhywun ar gyfer y swydd ganlynol i ymuno â’n tîm. Os hoffech chi helpu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
GWASANAETH ARBENIGOL BUDD-DALIADAU LLES A CHYNGOR ARIANNOL (SWBFAS)
CYNGHORYDD PROSIECT – DYLED
SWYDDFA LLANELLI
RHIF Y SWYDD: SC476
35 awr yr wythnos
£24,000 y flwyddyn
Nod SWBFAS yw lleddfu’r effaith y bydd Diwygiadau Lles yn ei chael ar breswylwyr Sir Gaerfyrddin. Deilydd y swydd fydd prif bwynt cyswllt y prosiect ar gyfer materion sy’n ymwneud â chyngor ar arian a chynhwysiant ariannol ynghyd â chyngor cyffredinol ar fudd-daliadau lles.
Mae Shelter Cymru’n cynnig telerau ac amodau hael, yn cynnwys 29 diwrnod o wyliau blynyddol i aelodau staff llawn amser yn ogystal â 2 ddiwrnod ychwanegol Shelter Cymru.
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD 12 Chwefror 2019
Mae Shelter Cymru yn herio gwahaniaethu yn ei holl feysydd gwaith ac arferion cyflogaeth.
Rhif Elusen: 515902
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.