
Shelter Cymru – Cyfreithiwr / Wraig Caerdydd
Elusen pobl a chartrefi yng Nghymru yw Shelter Cymru, sy’n ymroi i atal digartrefedd, gwella cyflwr tai, a sicrhau bod gan bawb yr hawl i fwynhau lle diogel, addas a fforddiadwy i fyw.
Rydym ni’n chwilio am rywun ar gyfer y swydd ganlynol i ymuno â’n tîm. Os ydych chi am helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, hoffem glywed gennych.
CYFREITHIWR / WRAIG
SWYDDFA CAERDYDD
RHIF SWYDD: SC444
35 awr yr wythnos
£28,000 – £31,000 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)
Yr ydym yn chwilio am gyfreithiwr/ / wraig a fydd yn gweithio fel rhan o dîm cyfreithiol Shelter Cymru. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol a fydd yn cynnwys ymgyfreitha a gwaith ymgynghori.
Mae Shelter Cymru’n cynnig telerau ac amodau hael, yn cynnwys 29 diwrnod o wyliau blynyddol i aelodau staff llawn amser ynghyd â 2 ddiwrnod ychwanegol Shelter Cymru
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
Dyddiad Cau: 12 noon 20 Medi 2018
Dyddiad Cyfweld: 1 Hydref 2018
Mae Shelter Cymru yn herio gwahaniaethu yn ei holl feysydd gwaith ac arferion cyflogaeth.
Rhif Elusen 515902
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.