

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad ei brosiect ‘Dechrau Newydd’ sy’n ceisio cefnogi entrepreneuriaid yng Nghymru i ddechrau mentrau cymdeithasol newydd.
Diolch i gyllid hael, gall y prosiect ‘dechrau newydd’ gynnig cymorth a chyngor busnes i fentrau cymdeithasol newydd, gan eu helpu i greu’r sylfeini cryf sydd eu hangen i feithrin busnes llewyrchus a chynaliadwy.
Galwch heibio ein digwyddiad lansio i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a gynigir, rhwydweithio, cyfarfod y tîm a gofyn iddynt yn bersonol am y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Darperir cinio a bydd yn gyfle gwych i gyfarfod entrepreneuriaid eraill yn eich ardal.
11.30 – Cofrestru, te a choffi
12.00 – Areithiau croeso a chyflwyniad
13.00 – Cinio a rhwydweithio
13.45 – Cyfarfod y tîm – cyfle i gael sgwrs un-i-un am eich busnes
14.30 – Diwedd
Archebwch eich tocyn am ddim nawr a manteisiwch ar y cyfle i ddechrau eich taith menter gymdeithasol.
Tuesday 19th November – Merthyr – Book now
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.