
WEDI’I OHIRIO Sbotolau ar yr Ymddiriedolwyr: Cynhadledd Trydydd Sector Gorllewin Cymru 31.03.20
WEDI’I OHIRIO
Canolfan Hermon. Hermon, SA36 0DT
31/03/2020 10am-3pm
Am Ddim!
I sicrhau lle cofrestrwch ar: https://wwconf2020.eventbrite.co.uk
Sbotolau ar yr Ymddiriedolwyr: Cynhadledd Trydydd Sector Gorllewin Cymru
Mae’r trydedd gynhadledd Trydydd Sector Gorllewin Cymru yn cael ei threfnu ar y cyd gan CAVO, CAVS a PAVS. Mae’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi wynebu cyfnod gwleidyddol ac economaidd heriol dros y blynyddoedd diwethaf. Felly nawr mae’n bwysicach nag erioed bod gan Ymddiriedolwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r gwydnwch i ddarparu llywodraethu da.
Thema’r gynhadledd eleni felly yw ‘ Sbotolau ar yr Ymddiriedolwyr ‘, sy’n rhoi cyfle i gael y diweddaraf am faterion allweddol, datblygiadau a chyfleoedd i’r sector.
Bydd cyflwyniadau ar y canlynol:
- Cyflogi yn y sector
- Pwyllgorau – Recriwtio & Amrywiaeth
- Diogelu o fewn y sector
- Diweddariad rhanbarthol-CAVS, CAVO & PAVS
- Sesiwn Holi a Ateb y panel
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd lluniaeth a chinio ysgafn yn cael eu darparu, rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion dietegol penodol.
Mae’r lleoliad yn gwbl hygyrch, gyda digon o le i barcio.
Cefnogir y gynhadledd gan Bevan a Buckland & Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’ch CGS lleol:
CAVS-Jackie Dorrian- Jackie.Dorrian@cavs.org.uk
CAVO-Teleri Davies- Teleri.Davies@cavo.org.uk
PAVS-Vanessa John- Vanessa.John@pavs.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.