Mae’r staff datblygu yn CGGSG yn gallu eich helpu chi i sefydlu grwp, rhedeg grwp yn gyfreithlon, dechrau a datblygu prosiectau, a chyflawni amcanion y grwp.
Mae’r tîm yn gallu eich helpu chi gyda:
- Chyfansoddiadau
- Cofrestru fel elusen
- Cofrestru fel cwmni
- Gweithio gydag ymddiriedolwyr
- Cynlluniau busnes
- Astudiaethau dichonolrwydd
- Materion yn ymwneud and chyflogaeth
- Monitro a gwerthuso
- Agweddau eraill ar ddatblygu a rheoli prosiectau.
Mae’r rhain yn ychwanegol at gyngor ar nawdd, gwybodaeth, a recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, sef pynciau sy’n cael sylw mewn adrannau eraill o’r wefan hon.
Ac os na fydd y staff yn gallu eich helpu chi’n uniongyrchol, fwy na thebyg y byddan nhw’n gallu eich harwain chi ymlaen at adnoddau eraill. I gysylltu â swyddogion datblygu CGGSG, ffoniwch 01267 245555, neu edrychwch ar y Rhestr o Gysylltiadau ar gyfer Staff am fanylion e-bost.