Cyswllt Sir Gaerfyrddin
Cysylltu Eich Cymuned Ar-lein!
Ymweld â’r wefan www.cyswlltsirgaerfyrddin.org.uk.
Beth yw Cyswllt Sir Gaerfyrddin?
Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn gyfle cyffrous i grwpiau cymunedol ac unigolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gâr rannu eu newyddion, gweithgareddau a diddordebau trwy gyhoeddi lluniau, fideos a chlipiau sain ar wefan arbennig a elwir yn ‘blog’. Y newyddion da yw bod Tîm Cyswllt Sir Gaerfyrddin yma i ddangos i chi sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i helpu eich grŵp (mae hefyd yn rhad ac am ddim!).
Beth yw blog?
Os nad ydych chi wedi dod ar draws blog o’r blaen, mae fel dyddiadur ar-lein – rhywle i adrodd eich stori. Y peth da am ei gadw ar-lein yw fod pobl eraill yn gallu ei ddarllen ac rydych chi’n gallu ychwanegu lluniau, fideos a sain. Mae’n ffordd wych o hyrwyddo eich grŵp a’i weithgareddau. Felly, sut ydyn ni’n cymryd y lluniau a’r fideos hyn? Rydyn ni’n defnyddio ffôn symudol, oherwydd mae gan lawer ohonyn nhw gamerâu sy’n hwylus ac yn gyfleus i’w defnyddio. Ond mae camerâu digidol yn gweithio’n dda hefyd. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi defnyddio blog o’r blaen – mae’r tîm yma i’ch helpu.
Sut ydw i’n gallu bod yn rhan o’r prosiect?
Mae yna ffyrdd gwahanol o gymryd rhan ac fe allwch chi ychwanegu cymaint, neu gyn lleied ag y dymunwch at y blog. Fe allwch chi e-bostio eich newyddion at y tîm er mwyn iddyn nhw ei gyhoeddi, neu fe allwch chi gael eich cyfrif eich hun er mwyn i chi flogio pan fyddwch chi eisiau. Mae’r hyn yr ydyn ni’n ei wneud yn dibynnu ar eich grŵp ac ar ba mor bell yr ydych chi eisiau datblygu. Beth bynnag yr ydych chi am ei wneud, fe fydd tîm Cyswllt Sir Gaerfyrddin yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
Dw i eisiau gwybod mwy!
Os ydych chi’n grŵp cymunedol mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac rydych chi am i ni ddangos i chi sut mae’r blog yn gweithio a beth allai ei wneud ar gyfer eich grŵp chi, ffoniwch ni ar 01554 777801 neu anfonwch e-bost at y tîm, at info@carmsconnect.org.uk.
Dyma ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gâr: Glanymor, Tyisha, Llwynhendy, Felinfoel, Pantyffynnon a Dyffryn Aman Uchaf