
Holiadur: Cynlluniau Pentref Llesiant Llanelli a Chanolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands
Cynlluniau Pentref Llesiant Llanelli a Chanolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands
Diolch i bawb a ddaeth i Ddigwyddiad Gwybodaeth y Trydydd Sector ar 7 Hydref 2019. Rydym yn gobeithio bod y cyflwyniad wedi bod o fudd i chi.
Fel yr amlinellwyd yn ystod y sesiwn, mae cynlluniau Pentref Llesiant Llanelli a Chanolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands yn cynnal ymarfer ymgynghori ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys arolwg byr i’r trydydd sector i ddeall os hoffai eich sefydliad gysylltu â’r Pentref a / neu Canolfan Cross Hands, a sut yr hoffai wneud hynny. Er enghraifft, a oes unrhyw weithgareddau trydydd sector y gellid eu cynnwys, ac, os felly, beth fyddai eich gofynion o ran gofod ac amserlennu.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi’r holiadur amgaeedig erbyn dydd Gwener 22 Tachwedd. Bydd y wybodaeth a gesglir yn llywio’r prosesau cynllunio busnes/gwasanaeth ar gyfer y ddau brosiect.
https://carmarthenshire.researchfeedback.net/wh/s.asp?k=157175512353
Cofiwch gysylltu os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch.
- Pentref Llesiant Llanelli:
Richard Reynolds, rcreynolds@sirgar.gov.uk (01267 242425)
- Canolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands:
Claire Sinnett, Claire.Sinnett@wales.nhs.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.