
Arolygon ar gyfer Elusennau a Chyllidwyr
Byddai CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn gwerthfawrogi eich help, os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cyllid i CGGC ar gyfer prosiect 15 mis i godi ymwybyddiaeth o’r marc safon Elusen Ddibynadwy (PQASSO yn flaenorol) ac i ysgogi trafodaethau ynghylch sicrwydd ansawdd yng Nghymru.
P’un a ydych chi wedi clywed am y marc safon Elusen Ddibynadwy ai peidio, byddem yn gwerthfawrogi eich barn am sicrwydd ansawdd yn y sector elusennol. Allech chi roi tua 7 munud erbyn 7 Chwefror i lenwi arolwg yn eich dewis iaith drwy ddilyn un o’r dolenni isod:
Arolwg ar gyfer Elusennau
Cymraeg https://www.surveymonkey.co.uk/r/Trusted_Charity-Charity_Survey_cy
Saesneg https://www.surveymonkey.co.uk/r/Trusted_Charity-Charity_Survey_en
Arolwg ar gyfer Cyllidwyr
Cymraeg https://www.surveymonkey.co.uk/r/Trusted_Charity-Funders_cy
Saesneg https://www.surveymonkey.co.uk/r/Trusted_Charity-Funders_en
Bydd 20 Degrees, cwmni ymchwil annibynnol, yn dadansoddi ymatebion i’r arolwg, ac ni fydd CGGC ond yn cael gweld data dienw a chyfanredol
Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil ar wefan CGGC maes o law. Os hoffech danysgrifio i gylchlythyr CGGC i gael gwybod pryd y bydd hyn yn digwydd, anfonwch e-bost at ktsioni@wcva.cymru.
Diolch am eich help
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.