
Swyddog Maes Digidol
Swydd Gymraeg
Trosolwg
Rydym yn chwilio am unigolyn i weithio ar gynllun i gefnogi pobl di-waith gyda sgiliau cyfrifiadurol. Mi fydd y person delfrydol yn hunan ddisgybledig a brwdfrydig.
Cyflogwr: Menter Gorllewin Sir Gâr
Cyflog: £22,183 – £25,991
Dyddiad Cau: 23/11/2020
Amser Cau: 09:00 am
Disgrifiad Swydd – Swyddog Maes Digidol
Gwybodaeth Gyswllt
Enw Cyswllt: Dewi Snelson
Ffôn: 01239 712934
E-bost: ymholiad@mgsg.cymru ( Danfonwch e-bost via Lleol cymru )
Cefndir
Mae’r Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithredu cytundebau i redeg sesiynau digidol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Prif nod y gwaith fydd i weithio gyda’r di-waith i’w cefnogi i chwilio am swyddi. Mae’r gwaith yn cynnwys eu cynorthwyo i ddefnyddio cyfrifiadur, cofrestru ar wefannau chwilio am swyddi, creu cyfri e-bost, creu CV ac unrhyw elfen arall o chwilio am swydd ar lein.
Rydym yn gweithio ar draws siroedd Ceredigion, Sir Gâr, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Sir Benfro a Pen-y-Bont ar Ogwr.
Cyfrifoldebau’r Swyddog
- Cydweithio gyda’r swyddogion eraill er mwyn darparu gweithdai digidol gan gynnwys
- Sgiliau Cyfrifiadurol
- Cofrestru ar wefannau chwilio am swyddi
- Creu e-bost
- Uwch lwytho dogfennau
- Creu CV
- Cadw cofnod o fynychwyr a’r hyn maent wedi cyflawni
Cyfathrebu a cydweithio gyda’r Canolfannau Byd Gwaith
Gweithredu blaenoriaethau cyllidwyr yn unol â’r galw
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.