
Diolch i wirfoddolwyr
Hoffai CAVS ddiolch i bobl anhygoel y Sir am ymateb i’n galwad i weithredu.
Ers Mawrth 23ain 2020 – mae tua 900 o wirfoddolwyr parod wedi cofrestru ar carmarthenshire.volunteering-wales.net (Ebrill 21ain)
Dyma ein llwybr ffurfiol i wirfoddoli felly cofiwch fod sefydliadau yn addasu eu rolau i adlewyrchu’r argyfwng presennol.
Enghreifftiau o gyfleoedd Covid:
- Ysbytai Maes (Cyngor Sir Gâr)
- Gwirfoddoli gyda’r GIG
- Cyfeillwyr a Chydlynwyr Ffôn
- Leonard Cheshire (Ty Cwm)
Mae CAVS yn falch o gynrychioli’r trydydd sector ac rydym yma i gefnogi’r holl wirfoddoli ffurfiol a chefnogaeth leol anffurfiol.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i roi’r wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad diweddaraf i chi.
- Diolch am gefnogi’ch cymdogion.
- Diolch am gefnogi’ch sir.
- Diolch am fod yn achubiaeth amhrisiadwy.
- Diolch am helpu i’n cadw ni’n ddiogel.
Pob dymuniad da wrth bawb yn CAVS
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.