
Pobl Hŷn yn y Gweithle – Adolygiad Canol Gyrfa
Mae Gweminarau Adolygiad Canol Gyrfa Busnes yn y Gymuned yn cynnig cyfle i chi fyfyrio a phwyso a mesur ble rydych chi nawr a ble hoffech chi fod. Maen nhw’n darparu trosolwg i’ch sbarduno i feddwl am eich gyrfa, eich iechyd, eich llesiant, eich sefyllfa ariannol a chydbwysedd bywyd a gwaith a pha ddewisiadau gwybodus y gallech ddewis eu gwneud er mwyn mwynhau’r bywyd yr hoffech ei gael pan fyddwch yn hŷn. Mae’r gweminarau’n rhan o raglen Pobl Hŷn yn y Gweithle, sydd wedi’i chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhaid i chi fod yn 50 oed ac yn hŷn a naill ai mewn cyflogaeth neu’n chwilio’n rhagweithiol am gyflogaeth i gymryd rhan. Rydym yn eich annog i gofrestru am UN DYDDIAD ym maes Gyrfaoedd, Iechyd a Llesiant ac UN DYDDIAD ym maes Cyllid i gael y trosolwg a’r wybodaeth i gyd, ond nid yw hynny’n hanfodol.
Gallwch gofrestru ar gyfer un o’n gweminarau adolygiad canol gyrfa nesaf fel a ganlyn:
Gweminarau Adolygiad Canol Gyrfa yn trafod Gyrfaoedd, Iechyd a Llesiant*
- Dydd Mawrth, 22 Medi 2020 10:00 – 11:15
- Dydd Mercher, 7 Hydref 2020 10:00 – 11:15
- Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020 14:00 – 15:15
- Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020 10:00 – 11:15
Gweminarau Adolygiad Canol Gyrfa yn trafod Cyllid*
- Dydd Mercher, 23 Medi 2020 10:00 – 11:00
- Dydd Mercher, 14 Hydref 2020 10:00 -11:00
- Dydd Iau, 12 Tachwedd 2020 14:00 – 15:00
- Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020 10:00 – 11:00
Unwaith i chi gofrestru ar gyfer y gweminarau, cewch e-bost gyda dolenni i gwblhau rhag-arolwg a ffurflen gydraddoldebau. Dylech gymryd ychydig funudau i gwblhau’r ddwy ffurflen yma am eu bod yn ofyniad gan ein cyllidwr ar gyfer unrhyw un sy’n mynychu’r gweminarau.
*Noder Mai Drwy Gyfrwng Y Saesneg Y Cynhelir Pob Un O’r Gweminarau.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.