
Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru – Agenda
Mae Agenda Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru “O Gynhwysiant i Gwydnwch” yn cael ei lansio heddiw. (18.03.21)
Mae’r Agenda yn amlygu pum maes yr hoffem iddynt gael eu blaenoriaethu yn ystod y pum mlynedd nesaf fel bod pawb yng Nghymru sydd angen ac eisiau cael mynediad at y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, ac elwa ohonynt, yn gallu gwneud hynny:
- Ymsefydlu cynhwysiant digidol ym mhob sector
- Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
- Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
- Gosod isafswm safon byw digidol newydd
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.