
Gwobrau Elusennau Cymru
Gwobrau newydd sbon yw Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC
Maent yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad arbennig elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau dielw a gwirfoddolwyr at Gymru. O gyfeillachwyr sy’n galw heibio i ymweld â’u cymydog oedrannus bob dydd Mawrth, i fudiadau sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb yn genedlaethol, mae’r Gwobrau’n amlygu ac yn hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud ym mywydau ein gilydd.
Felly os gwyddech am fudiad neu unigolyn sy’n haeddu cael ei ddathlu, ewch amdani ac enwebwch heddiw.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.