
Gweithiwr Cymorth Trosiannol
(18 awr yr wythnos – £8,937 y flwyddyn )
Prosiect yw Barod i’r Ysgol sy’n anelu at gefnogi’r plentyn a’r rhiant yn y cyfnod trosiannol hwnnw o’r cartref i’r ysgol. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn darparu grwpiau mewn lleoliadau gwledig ac yn y cartref.
Ariennir y swydd hon tan Mehefin 30 2020 yn ddarostyngedig i gyllid pellach.
Y gweithiwr i’w leoli yn Aberteifi ac yn cwmpasu Sir Ceredigion.
Gofynion hanfodol:
- Wedi’ch haddysgu i NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant neu’n gyfwerth neu’n gweithio tuag ato
- profiad sylweddol yn ymgysylltu â phlant a theuluoedd.
- Y gallu i siarad Cymraeg er mwyn cyflwyno’r prosiect yn ddwyieithog.
- Gyrrwr car â mynediad i gar.
Am becyn cais, e bostiwch Sarah Harries sarahharries@jigso.wales neu ffoniwch 01239 615922
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 30 Gorffenaf 2019
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Llun 5 Awst 2019.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.