
Noddfa Gyda’r Hwyr
“Cymorth pan fydd arnoch ei angen”
Gwasanaeth iechyd meddwl i oedolion y tu allan i oriau
Mae’r Noddfa Gyda’r Hwyr yn wasanaeth y tu allan i oriau sy’n
cynnig noddfa i oedolion sydd mewn perygl o brofi iechyd
meddwl sy’n dirywio.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth a chyngor trwy ddarparu
amrywiaeth o ymyraethau cefnogol mewn amgylchedd
croesawgar a chartrefol yng Nghanol Tref Llanelli.
Mae’r Noddfa Gyda’r Hwyr yn darparu lleoliad amgen i fanteisio ar gymorth yn gynnar, yn ogystal ag osgoi’r ddibyniaeth ar
wasanaethau iechyd meddwl craidd. Mae pob agwedd ar y
gwasanaeth yn ffocysu ar ddull holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr
unigolyn.
Llanelli Mind,
46 Thomas Street, Llanelli,
SA15 3JA
6pm-2am
Dydd Iau-Dydd Sul
Ffôn: 01554 253 193
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.