Uned Cofnodion Troseddol
Mae Uned Cofnodion Troseddol y WCVA yn rhan o Uned Cytundebau'r WCVA ac mae'n cael ei ariannu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae gan yr uned statws corff ambarel cofrestredig y Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT) ac fe'i sefydlwyd i helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael mynediad at Wasanaeth Datgelu'r SCT.
Mae CAVS wedi'i chofrestru gydag Uned Cofnodion Troseddol y WCVA.
Fel y cyfryw, rydyn ni'n gallu helpu mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn y broses o recriwtio gwirfoddolwyr a staff cyflogedig. Rydyn ni'n gallu llenwi'r ffurflenni datgelu gofynnol gyda'r gwirfoddolwr neu gweithiwr a phasio'r wybodaeth ymlaen at yr Uned Cofnodion Troseddol yng Ngogledd Cymru. Yna, maen nhw'n edrych dros y ffurflenni ac yn eu cydlofnodi a'u hanfon ymlaen at y SCT i'w prosesu.
I gael ffurflenni datgelu gan yr UCT mae angen i ni wybod enw llawn yr ymgeisydd a rôl y lleoliad gwirfoddoli/swydd y byddan nhw'n ei wneud. Fe all gymryd rhwng 2- 6 wythnos i gael datgeliad ac fe fydd yr ymgeisydd yn cael ei (d)diweddaru ar bob cam yn ystod y broses recriwtio (gan gynnwys yn hysbyseb ar gyfer y swydd) fod angen datgeliad gan y SCT. Ar hyn o bryd, mae dwy lefel o ddatgeliad ar gael gan y SCT: Datgeliad Uwch, a Datgeliad Safonol.
Mae Datgeliadau Uwch a Safonol yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr sy?n gweithio gyda phlant a/neu oedolion bregus. Ond, i staff ar gyflog mae yna dal o £34.00 am ddatgeliad uwch a £29 am ddatgeliad safonol.
Dylai mudiadau gofio, tra bod CAVS yn gallu helpu gyda'r broses recriwtio trwy eu helpu i gael gwiriadau'r SCT, ni all gynghori ar addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y swydd na dweud a ddylent gael eu derbyn fel gwirfoddolwyr neu gweithwyr ar gyflog ai peidio. Penderfyniad y mudiad gwirfoddol yn unig yw'r penderfyniad hwn.