Dylai fod gan bob mudiad sy'n recriwtio gwirfoddolwyr y polisïau canlynol mewn lle:
- Côd Ymarfer ar gyfer defnyddio Gwirfoddolwyr
- Iechyd a Diogelwch
- Cyfleoedd Cyfartal
- Polisi Gwirfoddoli
- Treuliau
- Yswiriant
- Hyfforddiant
- Problemau ac Achwyniadau / Cymorth ac Arweiniad
CÔD YMARFER AR GYFER DEFNYDDIO GWIRFODDOLWYR
Mae gan fudiadau sy'n dibynnu ar waith gwirfoddolwyr gyfrifoldeb tuag at y gwirfoddolwyr hynny. Dylid datblygu côd ymarfer i sicrhau bod pob un sy' gweithio gyda gwirfoddolwyr yn gwneud hynny o fewn fframwaith arfer da.
IECHYD A DIOGELWCH
Dylai fod gan bob mudiad Bolisi Iechyd a Diogelwch mewn lle. Dylai nodi cyfrifoldebau’r mudiad, y staff cyflogedig a'r gwirfoddolwyr. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob mudiad i sicrhau bod unrhyw staff cyflogedig, a gwirfoddolwyr, yn ddiogel yn y gwaith.
CYFLEOEDD CYFARTAL
Mae'n gyfrifoldeb ar bob mudiad i hybu cyfleoedd cyfartal ac i atal gwahaniaethu.
POLISI GWIRFODDOLI
Dylai pob mudiad sy'n recriwtio gwirfoddolwyr lunio polisi gwirfoddoli er mwyn gosod canllawiau clir ar gyfer unigolion sy'n gwirfoddoli o fewn y mudiad.
TREULIAU
Pan fydd unigolion yn gwirfoddoli, ni ddylai gostio unrhyw beth iddynt. Dylai mudiadau annog eu gwirfoddolwyr i gymryd eu treuliau a gofyn iddynt gadw unrhyw dderbynebau ar gyfer eu gwariant. Mae'r costau y gellir eu had-dalu'n cynnwys:
- Teithio
- Costau gofal plant neu ofal yn eu lle
- Costau bwyd wrth wirfoddoli
- Costau ffôn a phostio (os yn gweithio o'u cartref)
- Cost offer/defnyddiau
Mae'n bwysig sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gwybod beth y gallant ei hawlio cyn iddynt ddechrau gwirfoddoli.
YSWIRIANT
Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod gwirfoddolwyr sy'n gweithio i'r mudiad yn dod o dan eich polisi yswiriant.
HYFFORDDIANT
Mae'n bwysig fod pob mudiad yn rhoi hyfforddiant perthnasol i wirfoddolwyr i'w galluogi i wneud eu gwaith.
PROBLEMAU AC ACHWYNIADAU / CYMORTH AC ARWEINIAD
Dylai fod yr un cymorth ac arweiniad ar gael i wirfoddolwyr a staff cyflogedig. Ond, dylid ei addasu at lefel cyfranogiad ac anghenion y gwirfoddolwyr. Dylai pob mudiad benodi unigolyn i fod yn gyfrifol am wirfoddolwyr, fel eu bod yn gwybod at bwy i fynd os ydynt yn cael unrhyw broblemau neu os oes unrhyw gwestiynau ganddynt.