Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Gwirfoddoli :

I ofyn am becyn cofrestru, cysylltwch â'r Biwro

Mwy am ein gwasanaethau ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol

Nod Biwro Gwirfoddoli Sir Gâr yw annog y defnydd o wirfoddolwyr, a chodi safonau ar gyfer gwirfoddolwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rheiny sy'n derbyn gwasanaethau.  Mae'r gwasanaeth ar gael i bob mudiad gwirfoddol yn Sir Gâr sy'n cofrestru gyda'r gwasanaeth ac yn cytuno i weithio tuag at Gôd Arfer Da.

Fe all y Biwro gynnig yr holl wasanaethau canlynol i chi yn RHAD AC AM DDIM:

  • Recriwtio gwirfoddolwyr
  • Cyhoeddusrwydd – Hyrwyddo
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf
  • Cyfleuster rhwydweithio
  • Llenyddiaeth ar arfer da
  • Cymorth gyda pholisïau Gwirfoddoli

RECRIWTIO GWIRFODDOLWYR

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth i gyfateb lleoliadau gwirfoddoli mudiadau sydd wedi eu cofrestru gyda'r Biwro a phobl sydd am wirfoddoli.


CYHOEDDUSRWYDD - HYRWYDDO

Fe allwn ni eich helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau trwy ddarparu:

  • Gwybodaeth mewn ymateb i ymholiadau
  • Hyrwyddo eich grŵp trwy'r Biwro Gwirfoddoli
  • Hybu eich grŵp mewn lleoliadau cymunedol gyda'r Biwro Gwirfoddoli Symudol (BGS)
  • Dosbarthu gwybodaeth trwy gylchlythyr y Biwro Gwirfoddoli

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF

Fe all y Biwro Gwirfoddoli roi gwybodaeth i fudiadau sydd wedi cofrestru gyda ni, ar ddatblygu polisïau perthnasol ar gyfer eu gwaith gyda gwirfoddolwyr.


CYFLEUSTER RHWYDWEITHIO

Mae'r Biwro Gwirfoddoli'n dosbarthu cylchlythyr chwarterol i fudiadau sydd wedi cofrestru gyda ni ac yn cynnal cyfarfodydd CVON (Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr) rheolaidd sy'n rhoi cyfle i drafod materion sy'n berthnasol i'ch rôl chi.


LLENYDDIAETH AR ARFER DA

Mae yna lyfrau cyfeirio a thaflenni gwybodaeth ar gael yn y Biwro Gwirfoddoli os ydych chi'n chwilio am arweiniad neu syniadau newydd.


HYFFORDDIANT I WEITHWYR CYFLOGEDIG A GWIRFODDOLWYR

Mae'r Biwro Gwirfoddoli'n darparu rhaglen o hyfforddiant ar sail eich anghenion a’ch gofynion, ar gyfer gweithwyr cyflogedig a gweithwyr di-dâl.

Am fanylion pellach edrych ar y tudalennau hyfforddiant.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales