Ein gwaith
Cefnogi gwirfoddoli yn Sir Gâr
Mae Biwro Gwirfoddoli CAVS yn cefnogi gwaith gwirfoddol yn Sir Gâr. Trwy ein cysylltiadau helaeth gyda mudiadau ledled y sir, rydyn ni'n gallu darparu gwasanaeth i unigolion sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, ac i fudiadau sy'n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith.
Nod y Biwro yw annog y defnydd o wirfoddolwyr, a chodi safonau ar gyfer gwirfoddolwyr, darparwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth ar gael i bob mudiad gwirfoddol yn Sir Gâr sy'n cofrestru gyda'r biwro ac yn cytuno i weithio tuag at Gôd Arfer Da. Rydyn ni'n helpu mudiadau i ddatblygu polisïau, ac yn darparu gwybodaeth o'n llyfrgell helaeth o adnoddau ar bob mater yn ymwneud â rheoli gwirfoddolwyr.
Help i fudiadau gwirfoddol a chymunedol
Mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn cofrestru gyda'r biwro ac yn dweud wrthym am y llefydd gwag sydd ganddynt ar y pryd ar gyfer gwirfoddolwyr. Yna, caiff y rhain eu cyfateb at wirfoddolwyr potensial, sydd hefyd yn gorfod mynd trwy broses gofrestru i ddarganfod beth yw eu diddordebau a'u sgiliau. Rydyn ni'n cyhoeddi cylchlythyr chwarterol i ddiweddaru pob grŵp sydd wedi eu cofrestru gyda ni, a chysylltiadau eraill, ynghylch y newyddion a'r materion cyfredol.
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau RHAD AC AM DDIM ar gyfer grwpiau, cliciwch yma.
Help i wirfoddolwyr
Yn llythrennol, mae gennym gannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli sy'n chwilio am wirfoddolwyr. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau, ac fe wnawn ein gorau i sicrhau eich bod yn dod o hyd i rywbeth sy'n addas i chi. Felly, beth bynnag yw'ch diddordeb, ble bynnag yr ydych chi'n byw, beth bynnag yw eich sgiliau, ffoniwch ni a gadewch i ni eich helpu. Rydyn ni'n cyhoeddi cylchlythyr chwarterol i wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda ni, i'w diweddaru nhw ynghylch newyddion a chyfleoedd gwirfoddoli.
Rydyn ni'n dangos manylion ein cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol ar wefan Gwirfoddoli Cymru www.gwirfoddolicymru.net.
Estyn allan i recriwtio a hyrwyddo
Mae'r Biwro'n rhedeg gwasanaeth estyn allan yn llyfrgell Rhydaman. Mae yna daflenni'n cael eu harddangos i godi ymwybyddiaeth o wirfoddoli'n gyffredinol, a chyfleoedd gwirfoddoli lleol sydd ar gael ar y pryd.
Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth misol, ac fe fydd Swyddog Gwirfoddoli ar gael ar Ddydd Mawrth cyntaf bob mis i ateb unrhyw gwestiynau ac i roi cyngor a chefnogaeth fwy manwl.
Mae'r Biwro'n ddiolchgar iawn am help staff y llyfrgell wrth sefydlu'r gwasanaethau estyn allan lleol hyn.
Nôl i'r brig