Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Gwirfoddoli :

I ddarganfod mwy, ac i archebu'r bws, cysylltwch â'r Biwro Gwirfoddoli.

Biwro Gwirfoddoli Symudol CAVS

Mobile Volunteer BureauMae'r Biwro Gwirfoddoli Symudol (BGS) yn fws mini sydd wedi'i drawsnewid yn swyddfa symudol. Prynwyd ac addaswyd y bws mini gyda nawdd a dderbyniwyd gan Gynllun Grant Volunteering Extra y WCVA.

Gall mudiadau gwirfoddol sydd wedi cofrestru gyda Biwro Gwirfoddoli Sir Gâr fenthyg y bws yn rhad ac am ddim am gyfnod byr. Yn bennaf, defnyddir y bws i recriwtio gwirfoddolwyr, gan alluogi grwpiau i fynd â'u gwaith recriwtio i unrhyw ran o'r sir. Mae'r BGS hefyd yn ffordd effeithiol o hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i waith mudiadau gwirfoddol.  Gellir defnyddio'r Bws yn Sir Gâr yn unig.

Os oes angen, fe allwch ofyn i un o'r swyddogion gwirfoddoli ddod gyda'r BGS i ddigwyddiadau.

Y prif ofynion yw bod gyrwyr yn gorfod bod dros 25 mlwydd oed a bod ganddynt drwydded yrru lân. Fe fyddwn yn rhoi benthyg y BGS ar ôl derbyn siec ddilys am werth gordaliad yswiriant y cerbyd fel blaendal, sef £100 (gallai hyn newid).

Dylai fod gan y mudiad Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus perthnasol sy'n darparu ar gyfer ei staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr i'r BGS. Nid yw'r cerbyd yn addas i gludo pobl nac offer.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales