Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Gwirfoddoli :

Cysylltu â Fflur
Ffôn 01267 239936
Ebost fflur@cavs.org.uk

Carms children's partnership logo

Cychwyn Cadarn

Fflur Hughes yw Swyddog Gwirfoddoli Plant a Phobl Ifanc y Biwro Gwirfoddoli ac mae'n gweithio o swyddfa CAVS yng Nghaerfyrddin.  Ariennir ei swydd trwy Cychwyn Cadarn a'r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPI), i roi cefnogaeth i'w prosiectau.

Mae'r prosiectau'n cynnwys: HomeStart, Cychwyn Cadarn, Cynllun Mentora, Canolfannau Teulu a sawl prosiect arall (gweler isod) yn ogystal â gweithio gyda Gweithwyr Ieuenctid i hybu gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc.  Mae gwirfoddoli yn rhan annatod o lwyddiant Cychwyn Cadarn, ac felly os oes diddordeb gennych mewn gwirfoddoli gydag unrhyw un o'r prosiectau, cysylltwch â Fflur yn swyddfa Caerfyrddin.


Cychwyn Cadarn Sir Gaerfyrddin

Mae'r Bartneriaeth Cychwyn Cadarn yn credu bod teuluoedd yn ganolog i lwyddiant y Cynllun Cychwyn Cadarn, ac ystyrir adeiladu cynhwysiant gyda theuluoedd, ac o fewn cymunedau, yn elfennau hanfodol os yw'r Cynllun yn mynd i fod yn gynaliadwy.  Mae aelodau ifancach ein cymuned yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, o fewn amgylchedd diogel, er mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau mewn bywyd.

Mae'r Cynllun yn ceisio darparu rhwydwaith y gall pob rhiant sydd angen cymorth gysylltu ag ef, ar draws y sir, gydag ystyriaeth briodol i'r ardaloedd hynny y nodwyd bod eu hanghenion yn gofyn am adnoddau ychwanegol.  Mae'r Cynllun hefyd yn cydnabod bod plant ag anableddau neu oedi yn eu datblygiad angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod eu blynyddoedd cynnar, sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael i bob plentyn.

Am fwy o wybodaeth am Gychwyn Cadarn Sir Gaerfyrddin, ewch at wefan Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales