Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr

Mae Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr yn grŵp o bobl sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn y sector gwirfoddol a statudol ledled Sir Gâr.

Pwrpas CVON yw helpu darparu a datblygu gwasanaeth gwirfoddoli effeithiol yn Sir Gâr. Mae yna gyfle i fudiadau drafod problemau, rhannu profiadau a syniadau, dysgu am waith ei gilydd a chael gwybodaeth ar faterion gwirfoddoli cyfredol.

Mae aelodaeth yn agored i bob mudiad sydd wedi cofrestru gyda’r Ganolfan Gwirfoddoli ac sy’n gyfrifol am reoli neu drefnu gwirfoddolwyr yn Sir Gâr.

Cysylltu ar ffôn 01267 245555 / 01554 778601, e-bost gwirfoddoli@cavs.org.uk.

Share