Arfer da a pholisïau

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dylai pob mudiad sy’n recriwtio gwirfoddolwyr ofalu fod ganddynt y polisïau canlynol:

  • Polisi Gwirfoddoli
  • Iechyd & Diogelwch
  • Cyfleoedd cyfartal
  • Pan mae pethau’n mynd o le
  • Cefnogaeth a goruchwyliaeth

 

Hefyd, dylai mudiadau anelu i gwrdd â gofynion y Cod ymarfer ar gyfer gwirfoddolwyr https://wcva.cymru/cy/resources/cod-ymarfer-ar-gyfer-cynnwys-gwirfoddolwyr/

A darparu:

  • Treuliau
  • Hyfforddiant sy’n addas ar gyfer rolau’r gwirfoddolwyr
  • Ac mae angen ichi sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu cynnwys yn benodol yn eich Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

 

Gweler ein canllawiau – Sefydlu menter gwirfoddol

 

Iechyd & Diogelwch

Dylai’r Polisi Iechyd & Diogelwch ddatgan cyfrifoldebau’r mudiad, y staff cyflogedig a’r gwirfoddolwyr. Mae gan bob mudiad ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod yr holl staff cyflogedig a gwirfoddolwyr yn ddiogel yn eu gwaith ac y cynhelir asesiad risg ar gyfer yr holl rolau gwirfoddol.

Cyfleoedd cyfartal

Mae gan bob mudiad gyfrifoldeb i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac atal gwahaniaethu. Mae angen i wirfoddolwyr gael hyfforddiant a chefnogaeth i gyflawni eu rolau yn unol â’r polisi Cyfleoedd cyfartal.

Polisi Gwirfoddoli

Dylai polisi gwirfoddoli fod ar gael sy’n amlinellu’r fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng gwirfoddolwyr a’r mudiad. Dylai restru’r hawliau, y cyfrifoldebau a’r gefnogaeth a gynigir i wirfoddolwyr.

Mân dreuliau

Mae’n arfer da i fudiadau ad-dalu’r holl fân dreuliau a gytunwyd a ysgwyddwyd gan wirfoddolwyr wrth gyflawni eu rolau. Dylid esbonio i wirfoddolwyr sut i hawlio treuliau.

Byddai treuliau rhesymol yn cynnwys

  • Teithio
  • Costau gofal plant neu gostau gofal amgen
  • Costau prydau bwyd wrth wirfoddoli
  • Costau ffôn & phostio (os yn gweithio gartref)
  • Costau offer/deunyddiau.

Mae’n bwysig fod gwirfoddolwyr yn cael gwybod beth ellir ei hawlio cyn iddynt ddechrau gwirfoddoli.

Yswiriant

Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod gwirfoddolwyr sy’n weithgar mewn mudiad yn cael eu cynnwys yn eich polisi yswiriant.

Hyfforddiant

Mae’n bwysig fod pob mudiad yn trefnu’r cyfnod cynefino a’r hyfforddiant priodol i wirfoddolwyr er mwyn iddynt allu cyflawni’r rôl. Mae’n arfer da cynnwys gwirfoddolwyr yn eich rhaglen hyfforddiant fel y gallant fanteisio ar gyfleoedd datblygu personol. Os yw hyfforddiant yn orfodol, mae angen esbonio hynny ar y cychwyn.

Cefnogaeth a goruchwyliaeth

Dylid sicrhau bod yr un gefnogaeth a goruchwyliaeth ar gael ar gyfer gwirfoddolwyr a staff cyflogedig. Fodd bynnag, dylid eu haddasu i lefel ymglymiad ac anghenion y gwirfoddolydd. Dylai pob mudiad benodi un unigolyn i fod yn gyfrifol am wirfoddolwyr, fel eu bod yn gwybod at bwy i droi os ydynt yn cael unrhyw broblemau neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau.

Os yw problemau’n codi

Mae angen cael proses glir os yw problemau’n codi fel bod gwirfoddolwyr yn gwybod  at bwy i droi os ydynt yn cael anawsterau. Mae angen esbonio hefyd beth yw’r broses ffurfiol os derbynnir cwynion am wirfoddolwyr

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU sy’n eich helpu i asesu a gwella ansawdd eich gwaith wrth reoli a chynnwys gwirfoddolwyr.

Dysgwch fwy am Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr  ar wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru