Nod Canolfan Gwirfoddoli Sir Gâr yw annog y defnydd o wirfoddolwyr, a chodi safonau ar gyfer gwirfoddolwyr, darparwyr gwasanaethau a’r rheiny sy’n derbyn gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth ar gael i bob mudiad gwirfoddol yn Sir Gâr sy’n cofrestru gyda’r gwasanaeth ac yn cytuno i weithio tuag at Gôd Arfer Da.
Fe all y Canolfan gynnig yr holl wasanaethau canlynol i chi yn RHAD AC AM DDIM:
- Recriwtio gwirfoddolwyr
- Cyhoeddusrwydd – Hyrwyddo
- Yr wybodaeth ddiweddaraf
- Cyfleuster rhwydweithio
- Llenyddiaeth ar arfer da
- Cymorth gyda pholisïau Gwirfoddoli
RECRIWTIO GWIRFODDOLWYR
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth i gyfateb lleoliadau gwirfoddoli mudiadau sydd wedi eu cofrestru gyda’r Biwro a phobl sydd am wirfoddoli.
CYHOEDDUSRWYDD – HYRWYDDO
Fe allwn ni eich helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau trwy ddarparu:
- Gwybodaeth mewn ymateb i ymholiadau
- Hyrwyddo eich grŵp trwy’r Canolfan Gwirfoddoli
- Hybu eich grŵp mewn lleoliadau cymunedol gyda’r Canolfan Gwirfoddoli Symudol (CGS)
- Dosbarthu gwybodaeth trwy gylchlythyr y Canolfan Gwirfoddoli.
YR WYBODAETH DDIWEDDARAF
Fe all y Canolfan Gwirfoddoli roi gwybodaeth i fudiadau sydd wedi cofrestru gyda ni, ar ddatblygu polisïau perthnasol ar gyfer eu gwaith gyda gwirfoddolwyr.
CYFLEUSTER RHWYDWEITHIO
Mae’r Canolfan Gwirfoddoli’n dosbarthu cylchlythyr chwarterol i fudiadau sydd wedi cofrestru gyda ni ac yn cynnal cyfarfodydd CVON (Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr) rheolaidd sy’n rhoi cyfle i drafod materion sy’n berthnasol i’ch rôl chi.
LLENYDDIAETH AR ARFER DA
Mae yna lyfrau cyfeirio a thaflenni gwybodaeth ar gael yn y Canolfan Gwirfoddoli os ydych chi’n chwilio am arweiniad neu syniadau newydd.
HYFFORDDIANT I WEITHWYR CYFLOGEDIG A GWIRFODDOLWYR
Mae’r Canolfan Gwirfoddoli’n darparu rhaglen o hyfforddiant ar sail eich anghenion a’ch gofynion, ar gyfer gweithwyr cyflogedig a gweithwyr di-dâl.
Am fanylion pellach edrych ar y tudalennau hyfforddiant.


