Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr

Mae Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr yn grŵp o bobl sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn y sector gwirfoddol a statudol ledled Sir Gâr. Ar hyn o bryd mae ganddo 50 aelod o CVON.

Pwrpas CVON yw helpu darparu a datblygu gwasanaeth gwirfoddoli effeithiol yn Sir Gâr. Mae yna gyfle i fudiadau drafod problemau, rhannu profiadau a syniadau, dysgu am waith ei gilydd a chael gwybodaeth ar faterion gwirfoddoli cyfredol.

Mae aelodaeth yn agored i bob mudiad sy’n gyfrifol am reoli neu drefnu gwirfoddolwyr yn Sir Gâr.