
CFfI Cymru – swydd tymor byr
Darparu adolygiad o’r sefydliad a chynllun busnes strategol tair blynedd ar gyfer Ffederasiwn CFfI Cymru.
Mae Cyngor Ffederasiwn CFfI Cymru yn gwahodd cwmnïau/unigolion sydd â diddordeb i gynnig dyfynbris am y gwaith o gynorthwyo’r sefydliad i adfer wedi Covid-19 trwy gynnal adolygiad o’r sefydliad a datblygu cynllun busnes strategol tair blynedd.
Disgwylir y bydd angen chwe mis i gwblhau’r prosiect, yn cychwyn ar 1 Ebrill 2021.
CEFNDIR Y PROSIECT
Mae Ffederasiwn CFfI (Clybiau Ffermwyr Ifanc) Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol dwyieithog sy’n gweithredu ledled Cymru, ac mae’n ceisio diwallu anghenion pobl ifanc trwy amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant, addysgol a chymdeithasol.
Mae’r rôl wedi’i chreu yn sgil cymorth Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru i gynorthwyo ag adferiad y sefydliad ledled Cymru, yn dilyn pandemig Covid-19.
Mae’r sefydliad yn gweithio gyda bron iawn 5,000 o bobl ifanc sydd oll rhwng 10 a 26 mlwydd oed, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn rhanbarthol a 157 o glybiau CFfI. Yn syml, diben yr adolygiad yw adolygu llywodraethu, adnoddau a chyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol, a llunio adroddiad yn nodi argymhellion y byddai angen eu gweithredu i sicrhau fod y sefydliad yn ‘Addas at y Dyfodol’.
Cysylltwch â Claire Powell
CFfI Cymru
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.