Ein gwaith
Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yn Sir Gâr, ac yn cynnig ymaelodaeth i grwpiau sydd am ymuno â'r gymdeithas.
Am fanylion llawn ynglyn â'n gwasanaethau, ewch at brif adrannau'r wefan hon.
Mae ein tîm nawdd a datblygu yn helpu grwpiau i sefydlu ac i rhedeg y grwp yn gyfreithlon, ac mae'n rhoi'r diweddaraf i grwpiau ynglyn â deddfwriaeth a materion sy'n effeithio ar y sector gwirfoddol ar hyn o bryd. Mae'r tîm, sy'n cynnwys swyddog cynghori ar nawdd, yn helpu grwpiau i ddod o hyd i nawdd prosiect perthnasol ac yn eu helpu i lunio ceisiadau am y nawdd.
Mae tîm partneriaeth CGGSG yn hwyluso'r broses o gynrychioli'r sector gwirfoddol ar fforymau cynllunio amrywiol, ac hefyd yn hwyluso fforymau penodol ar gyfer y sector gwirfoddol er enghraifft Fforwm Iechyd a Lles Sir Gâr, a Fforwm Dysgu Gydol Oes Sir Gâr. Mae CGGSG yn helpu gyda'r broses o ddarparu mecanwaith er mwyn sicrhau gwaith partneriaeth effeithiol rhwng asiantaethau perthnasol.
Mae'r Biwro Gwirfoddoli Sir Gâr yn cefnogi gwaith gwirfoddol, yn anelu at godi safonau ar gyfer gwirfoddolwyr ac yn hyrwyddo arfer da, gan helpu grwpiau i ddatblygu polisï. Mae'r Biwro'n cyfateb cyfleoedd gwirfoddoli lleol at wirfoddolwyr potensial.
Mae'r prosiect gwybodaeth CGGSG yn cydlynu pecynnau gwybodaeth misol ar gyfer 350 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ac ar gyfer cysylltiadau pwysig yn yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill. Mae hyn yn hwyluso'r broses o gyfnewid gwybodaeth ar draws y sector gwirfoddol a'r sector statudol a rhwng y ddau sector. Mae'r prosiect hefyd yn cadw cronfa ddata sirol ar gyfer y sector gwirfoddol ac mae'n cynnwys manylion dros 450 o grwpiau yn y sir. Y Prosiect Gwybodaeth sy'n datblygu ac yn cynnal gwefan CGGSG.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn gartref i Brosiect Cynhalwyr Sir Gâr. Trwy wasanaeth llinell gymorth, a'r Pecyn Gwybodaeth ar gyfer Cynhalwyr a'r Cylchlythyr i Gynhalwyr, mae cynhalwyr ar draws y Sir yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth. Mae cynhalwyr hefyd yn cael eu hannog i fod yn rhan o'r broses o gynllunio strategaethau a gwasanaethau lleol, yn enwedig trwy'r Gynghrair Cynhalwyr a sefydlwyd gan y prosiect yn 2001.
Mae CGGSG hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ymarferol gan gynnwys gwasanaethau ysgrifenyddol, benthyg offer hyfforddiant, a hurio ystafell gyfarfod yn y swyddfa yng Nghaerfyrddin.
Funding sources
Cawn ein nawdd, yn bennaf, trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (y WCVA), y Gronfa Adfywio Lleol, ac Amcan 1. Ceir nawdd hefyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, Cynghrair Iechyd Sir Gaerfyrddin, Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin a Cychwyn Cadarn, y Cyngor Cenedlaethol ELWa, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin.
Nôl i'r brig
Rhestr staff
Gwelwch tudalen Cysylltu â CAVS i weld rhestr staff.
Cliciwch yma i weld siart trefniadaethol o Staff CAVS (PDF 38KB).
Board of Trustees
Rheolir CAVS gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau gwirfoddol lleol, yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol. Etholir y Bwrdd bob blwyddyn gan aelodau CAVS, ac mae'n cyfarfod bob dau fis.
| Mair Stephens (Cadeirydd) |
Menter Cwm Gwendraeth |
| Dean Horsfield (Is Cadeirydd) |
Disabled Workers Co-operative |
| Hugh Edwards (Trysorydd) |
Catch Up Ltd. |
| Gayle Harris |
Dr Mz - Prosiect Pobl Ifanc Caerfyrddin |
| Mal James |
Cymdeithas Edward Llwyd |
| Ken Davies |
Clwb y Rhai â Phroblemau Clyw |
| Angelina Harding |
Ammanford Talking Newspaper |
| Deris Williams |
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin |
| Sandra Cooke |
|
| Dorothy McDonald |
Amman Valley Dementia Carers Support Group |
| Alban Rees |
Un Llais Cymru |
| Enfys Davies |
Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Nôl i'r brig