Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan /Cynhalwyr Sir Gâr :

Cysylltu â Ros Grey, Gweithiwr Prosiect Cynhalwyr, ar ffôn 01267 236436, ebost ros@cavs.org.uk

CCC Logo

LHB logo

Ein Gwaith

Mae Prosiect Cynhalwyr Sir Gâr yn cynhyrchu ac yn dosbarthu gwybodaeth, yn arwain pobl sy'n gofalu at ffynonellau cymorth a chefnogaeth trwy wasanaeth ffôn, ac yn hwyluso'r Cynghrair Cynhalwyr.Trwy'r Gynghrair Cynhalwyr, caiff cynhalwyr eu hannog i fod yn rhan o'r broses o gynllunio, datblygu ac adolygu gwasanaethau. Mae'r Prosiect Cynhalwyr yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyd-Ddatblygu Cynhalwyr.

Anfonir cylchlythyr chwarterol, Newyddion Gynhalwyr, at gynhalwyr unigol - tua 250 - ac anfonir 800 copi arall allan trwy Feddygfeydd, Canolfannau CAB, llyfrgelloedd, canolfannau dydd, a mudiadau gwirfoddol. Mae pob rhifyn yn denu ymholiadau newydd gan gynhalwyr sydd wedi gweld copi yn eu Meddygfa neu mewn man arall.

 

Newyddion Gynhalwyr

Anfonir cylchlythyr chwarterol Newyddion Gynhalwyr at gynhalwyr unigol, Meddygfeydd, Canolfannau CAB, llyfrgelloedd, canolfannau dydd, a mudiadau gwirfoddol. Nod y cylchlythr yw rhoi gwybodaeth i gynhalwyr y Sir ar y polisïau, gwasanaethau a’r mudiadau a gallau rhoi cymorth idddi nhw.

Os ydych chi’n dymuno derbyn copi caled o’r cylchlythyr ac os ydych yn fodlon i’ch enw fynd ar restr bostio gyfrinchol, neu os oes gennych syniadau, erthyglau neu awgrymiadau ar gyfer y rhifyn nesaf o Newyddion Cynhalwyr, ffoniwch 01267 236436 neu e-bostiwch carers@cavs.org.uk.

Buasem yn croesawu cyfraniadau at y Cylchlythyr yn enwedig wrth gynhalwyr a chynhalwyr gorffennol.

Lawrlwytho copi >>

Rhifyn
Lawrlwytho copi
Gorffennaf 2008 – Rhifyn 32
Mai 2008 – Rhifyn 31
Ionawr 2008 – Rhifyn 30
Hydref 2007 – Rhifyn 29
Gorffennaf 2007 – Rhifyn 28
Ebrill 2007 – Rhifyn 27

 

Wythnos Cynhalwyr: 9-15 mis Mehefin 2008

Nodau Wythnos Cynhalwyr yw:

  • Pwysleisio a dathlu’r cyfraniad a wnaed gan gynhalwyr
  • Ymgyrchu dros well gwasanaeth a chefnogaeth i gynhalwyr
  • Hyrwyddo polisïau ac arfer gorau sy’n medru gwella ansawdd bywyd cynhalwyr
  • Estyn allan i gynhalwyr ‘cudd’, gan sicrhau eu bod yn gwybod ble allant ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

2008: Y thema eleni yw ‘Gall cynhalwyr ddim fforddio bod yn sâl’.

Poster Wythnos Cynhalwyr (lawrlwythwch copi) (182 KB PDF)

Yn ystod Wythnos Cynhalwyr, mae Cynghrair Cynhalwyr Sir Gaerfyrddin yn cynnal Diwrnodau Gwybodaeth i gynhalwyr yng:

  • Nghaerfyrddin: 7 Heol y Frenhines – 11eg o Fehefin
  • Llanelli: Swyddfa CAVS, Stryd Ioan – 12fed o Fehefin
  • Rhydaman: Neuadd y Pensiynwyr – 13eg o Fehefin

Mae croeso i chi alw i mewn am gwpaned o de neu goffi rhwng 10.00 – 3.00yh, ac i ganfod pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael i chi. Bydd Aelodau Cynulliad Lleol yn ymuno â ni yn ystod y bore i wrando ar unrhyw bryderon sydd gennych.

 

 

Diwrnod Hawliau Cynhalwyr

Nodau Diwrnod Hawliau Cynhalwyr yw:

  • Cynyddu’r nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau
  • Sicrhau fod cynhalwyr yn defnyddio’u hawliau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  • Creu ymwybyddiaeth o anghenion cynhalwyr
  • Helpu unigolion i adnabod eu hunain fel cynhalwyr
  • Cynyddu’r nifer o gynhalwyr hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn

Hefyd, mae’r Cynghrair Cynhalwyr yn croesawu’r diwrnod fel cyfle i hysbysu cynhalwyr o’r gefnogaeth sydd ar gael yn Sir Gâr; i edrych ar ddatblygiadau yn y gwasanaeth; i holi cynhalwyr am eu barn am y gwasanaethau a beth arall ddylai fod ar gael, yn eu tyb nhw.

Os hoffech fynychu, ffoniwch y Prosiect Cynhalwyr ar 01267 236436 neu e-bost carers@cavs.org.uk am wybodaeth pellach. Gellir trefnu gofal yn eich lle a chludiant.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales