Mae staff nawdd a datblygu CAVS yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim i'ch helpu chi i ddod o hyd i ffynonellau nawdd sy'n addas ar gyfer gweithgareddau eich grwp.
Trwy ddefnyddio adnoddau helaeth Funderfinder a Grantfinder, a chronfeydd data ar-lein, fe allwn chwilio trwy amrywiaeth o ymddiriedolaethau elusennol a rhai sy'n cynnig grantiau. Yn ychwanegol at hyn, mae gan y staff wybodaeth ddiweddar ynglyn â grantiau'r llywodraeth yn lleol ac yn genedlaethol, a chyfeirlyfrau a chanllawiau ar gyfer ffynonellau nawdd eraill.
Wedi dod o hyd i ffynonellau addas o nawdd, mae'r staff yn gallu eich helpu chi drwy'r broses o lunio cais - cael gafael ar ffurflenni cais a'u cwblhau, a lle mae angen, dod i gysylltiad â'r noddwyr
Ynglyn â Grantfinder
Ers 1985, Grantfinder yw'r ffynhonnell arweiniol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gwybodaeth gywir a chynhwysfawr ar yr amrywiaeth lawn o ddarpariaeth cymorth ariannol yn y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys grantiau, cymhorthdaliadau, benthyciadau, nawdd mentro a mentrau eraill, sydd ar gael i bob math o fusnesau, o'r masnachwr unigol i'r cwmni amlwladol; i grwpiau gwirfoddol a chymunedol; i elusennau a changhennau elusennol; i bob agwedd a phob lefel o'r sector cyhoeddus.
www.grantfinder.co.uk
Ynglyn â Funderfinder
Mae FunderFinder yn gofyn i'r rheiny sy'n chwilio am grantiau ddisgrifio eu hunain a'r gwaith y maen nhw am ei ariannu mewn termau y gellir eu cyfateb gyda meini prawf a ddefnyddir gan noddwyr. Mae Funderfinder yn cynnwys gwybodaeth am feini prawf dros 4,500 o noddwyr. Dyma'r ymddiriedolaethau a'r sefydliadau y mae gwybodaeth argraffedig ar gael yn eu cylch ac sy'n rhoi grantiau i elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Mae Funderfinder yn cael hyd i noddwyr sy'n cyfateb i'r proffil chwilio a fwydwyd i mewn gan y rheiny sy'n chwilio am nawdd, hepgor y rheiny nad ydynt yn addas, rhestru'r noddwyr a ddarganfuwyd mewn trefn gan ddechrau gyda'r rheiny sy'n cyfateb orau ac yn rhoi cyfle i'r defnyddiwr ystyried noddwyr sy'n 'cyfateb yn rhannol'.
Mewn chwiliad, ceir rhestr o noddwyr y gellir ei harbed, ei hallforio a'i hargraffu. Mae Funderfinder yn rhoi manylion ynghylch ble i ddod o hyd i wybodaeth bellach am bob noddwr y ceir hyd iddynt, ond nid yw'n rhoi cyfeiriadau na chanllawiau polisi.
www.funderfinder.org.uk
Cyllid Cynaliadwy Cymru
Adnodd sy’n cynnig gwybodaeth ymarferol i fudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru ar sut i ddatblygu dull cynaliadwy o gyllido.
Mae’r wefan yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i sefydliadau sy’n dymuno datblygu ymagwedd entrepreneuraidd i nawdd er mwyn cyflawni cynaliadwyedd ariannol hir dymor drwy amrywiaethu eu hincwm.
Mae'n cynnig arweiniad ar yr amrywiol ffynonellau incwm sydd ar gael i’r sector a’r ymagweddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn mabwysiadu, rheoli a chynnal y ffynonellau hyn.
Mae hefyd yn cynnig astudiaethau achos o fudiadau sydd eisoes yn gweithio tuag at gynaliadwyedd, ffynonellau cymorth pellach, y newyddion rheolaidd diweddaraf ar Gyllid Cynaliadwy Cymru, a manylion hyfforddiant a digwyddiadau perthnasol.
Caiff y wefan ei diweddaru yn gyson a rhoddir cyfle i fudiadau ymuno â rhestr e-bost i dderbyn cylchlythyr misol am ddim.
I gael gwybod mwy am Gyllid Cynaliadwy Cymru, gallwch 0800 2888 329 neu e-bost sfc@wcva.org.uk
Gwefan Cyllid Cynaliadwy Cymru