
Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar “Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol
Rydym am glywed eich barn am gynigion sy’n cynnwys nifer o faterion iechyd a gofal cymdeithasol mae’n bosibl y bydd angen llunio deddfwriaeth ar eu cyfer yn y dyfodol.
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/gwasanaethau-syn-addas-ir-dyfodol
Disgrifiad o’r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion i:
- gryfhau trefniadau arwain yn sefydliadau’r gwasanaeth iechyd
- cyflwyno dyletswyddau newydd o ansawdd a gonestrwydd (bod yn agored)
- datblygu safonau cyffredin ac ymchwilio ar y cyd i gwynion ar draws y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- cryfhau llais y dinasyddion ynghylch y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cynllunio a’u darparu
- llunio proses gliriach ar gyfer cynlluniau i newid gwasanaethau
- gwella’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd sefydlu corff newydd annibynnol i wrando ar lais y dinesydd ac ar gyfer rheoleiddio ac arolygu
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.