Yn dilyn yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd yn gynharach eleni gan Caroline Roberts ac a ariannwyd gan 1Gronfa, mae’r adroddiad terfynol bellach wedi’i gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion a manteision cael cronfa ddata gynhwysfawr o leoliadau gwe-seiliedig ar gyfer y sir i roi gwybodaeth ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn partneriaeth â Grŵp Mynediad Llanelli ac roedd yn rhoi peth ystyriaeth fanwl i faterion hygyrchedd yn ymwneud â gwahanol fathau o leoliadau.
Gellir llwytho copi o’r adroddiad yma (PDF 510KB)
Yn ddiweddar, mae CAVS wedi cael nawdd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru (AMARh) i symud y prosiect yn ei flaen ac i ddatblygu’r gronfa ddata ar-lein. Am wybodaeth bellach ar y prosiect, cysylltwch â Cris neu Peter yn CAVS ar 01267 236367.

