Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Gwybodaeth gyffredinol :

Arbedwch arian, helpwch CAVS a defnyddiwch Phone Co-op.

Am gyngor pellach, ffoniwch nhw ar 0845 458 9000 gan sicrhau eich bod yn crybwyll CAVS AG116.

Taliadau ffôn rhatach gyda'r Phone Coop

Phone Co-op yw'r unig gyflenwydd telegyfathrebu cydweithredol yn y Deyrnas Unedig. Ac yntau'n fenter gymunedol i ddefnyddwyr mae'n eiddo i'w gwsmeriaid ac yn cael ei rhedeg er eu lles nhw yn unig. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu cynnig gwasanaeth rhentu llinell, galwadau ffôn a band llydan cystadleuol iawn i chi. Er enghraifft mae eu Tariff Defnyddwyr Cartref 15% yn rhatach nag Opsiwn 1 BT gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, mae 2MB o Fand Llydan yn dechrau ar £18.99 ac mae eu gwasanaeth rhentu llinell 50c y mis yn rhatach na BT. Mae Phone Co-op hefyd yn 'gwmni moesegol'. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni - cymharwch y prisiau gyda'ch darparwr gwasanaeth cyfredol i weld faint allech chi ei arbed.

Sut all fy mil ffôn i helpu'r sector gwirfoddol yn Sir Gâr?

Mae CAVS yn asiant gyda-r Phone Co-op, ac felly fe fydd cofrestru gan ddefnyddio rhif asiant CAVS (Rhif Adnabod Asiant 116) yn trosglwyddo comisiwn o 6% i CAVS, a defnyddir yr arian hwn i gefnogi gwaith y sector gwirfoddol yn y sir.

Mae yna ddwy ffordd o gofrestru

I elwa o ddefnyddio'r Phone Co-op a helpu CAVS, cliciwch ar ddolen gyswllt yma www.thephone.coop, neu cyslltwch â Cris Tomos, CAVS cris@cavs.org.uk neu ffôn 01267 236367 i gael ffurflen cais.

Gwahanu eich galwadau gwirfoddoli a'ch galwadau cartref

Os nad ydych chi am ddefnyddio'r Phone Co-op ar gyfer eich galwadau cartref, ond rydych chi'n chwilio am ffordd o wahanu eich galwadau gwirfoddoli a'ch galwadau domestig, fe allwch chi wneud hyn trwy optio allan o rentu llinell a dewis peidio â chael mynediad awtomataidd at wasanaethau'r Phone Co-op. Wrth wneud galwad, rydych chi'n deialu rhif penodol yn gyntaf ar gyfer eich galwadau gwaith gwirfoddol, ac yn cael bil ar gyfer y galwadau hynny gan y Phone Co-op, tra bod eich galwadau cartref yn aros gyda'ch darparwr presennol.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales