|
|
Fforwm 50+ Sir Gâr
Ydych chi’n 50 neu’n hŷn?
Mae’r Strategaeth 50+ yn cynnig gwir gyfle i’r genhedlaeth 50+ i gynnig ei llais wrth ddatblygu’r strategaeth a’r gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae’n bwysig i’r bobl hynny fod yn rhan o ymgynghoriadau, grwpiau trafod a chynrychiolaeth, ac rydyn ni'n gwybod bod yna lawer i gystadlu yn ei erbyn. Ond os oes modd rhoi’r amser, mae gwybodaeth a phrofiad pobl mor werthfawr.
Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, a dyma’i 5 prif nod:
-
Adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i Bobl Hŷn i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ble bynnag y mae’n digwydd, hybu delweddau positif o heneiddio a rhoi llais cryfach i bobl hŷn yn y gymdeithas.
-
Hybu a datblygu gallu pobl hŷn i barhau i weithio a dysgu cyhyd ag y maen nhw’n dymuno gwneud, ac i gyfrannu’n weithgar unwaith y maen nhw’n ymddeol.
-
Hybu a gwella iechyd a lles pobl hŷn trwy fframweithiau trosglwyddo gwasanaeth a chynllunio integredig, a gwasanaethau cymorth a diagnostig mwy ymatebol.
-
Hybu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel, sy’n galluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol â phosib mewn amgylchedd addas a diogel, a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu trefnu o amgylch eu hanghenion ac yn ymateb iddynt.
-
Gweithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru gyda nawdd cymorth, i sicrhau ei bod yn gatalydd ar gyfer newid ac arloesi ar draws pob sector, yn gwella gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ac yn rhoi’r sylfaen i gynllunio’n effeithiol ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio.
|