Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Partneriaethau a Fforymau :

Ymgynghoriadau cyfredol

Dau brosiect newydd yn helpu i roi proffil uwch i’r sector

  • All eich llais chi newid pethau er gwell?
  • Ydych chi'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus yr hoffech chi eu hehangu?

Os ateboch chi’n gadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn neu’r ddau, hoffai WCVA eich helpu drwy gysylltu eich mudiad â dau brosiect newydd: Lleisiau dros Newid Cymru a Gwasanaethau i Gymru.

Bydd Lleisiau dros Newid Cymru yn:

  • cysylltu â chi am bolisïau’r llywodraeth yr hoffech chi efallai ddylanwadu arnynt
  • rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau lleol a fydd yn esbonio pwerau newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn eich helpu i gymryd rhan,
  • tynnu eich sylw at y newidiadau arfaethedig yn y gyfraith a allai effeithio ar y bobl y mae’ch mudiad yn gweithio gyda hwy, a
  • helpu chi i gyflwyno'ch barn, neu ddatblygu syniadau newydd i’w cyflwyno gerbron y Cynulliad.

Bydd Gwasanaethau i Gymru yn:

  • tynnu sylw cyrff cyhoeddus at y gwasanaethau a gynigiwch
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau ym maes gwasanaethau cyhoeddus a allai gynnig cyfleoedd ar gyfer eich mudiad,
  • cynnig cyngor am sut i ddod o hyd i wahoddiadau i dendro am wasanaethau newydd, ac ymhle i gael cymorth i lunio ceisiadau,
  • anfon manylion cyflenwadau a gwasanaethau sydd ar gael am bris gostyngol i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Dros yr wythnosau nesaf, caiff pob mudiad y mae WCVA yn gwybod amdano wahoddiad i fod yn rhan o’r ddau brosiect hyn.

If you are interested, please take a few minutes to complete the questionnaire which is available by Clicking Here

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, neu os oes gennych gwestiwn am sut i ymuno, cysylltwch â desg cymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu anfonwch e-bost at help@wcva.org.uk.

Cynllun Diogelwch Cymunedol Sir Gâr 2008-2011

Sefydlwyd Uned Diogelwch Cymunedol y Cyngor Sir i arwain y Cyngor yn ei ddyletswydd cyfreithiol i leihau troseddu ac anrhefn gan gynnwys gweithredu Strategaeth y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Ymhlith y gwasanaethau a ddarperir gan yr Uned Diogelwch Cymunedol mae:

  1. Rheoli ymateb y Cyngor i’w ddyletswydd i ystyried lleihau troseddu ac anrhefn ym mhopeth a wna.
  2. Hyrwyddo’r syniad o Ddiogelwch Cymunedol gyda phartneriaid ac fel mater corfforaethol o fewn y Cyngor.
  3. Cydlynu gwaith strategol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac arwain y gwaith o gynhyrchu, monitro ac adolygu’r Strategaeth Diogelwch Cymunedol.
  4. Cydlynu a chynorthwyo’r Grwpiau Gweithredu a datblygu prosiectau partneriaeth arloesol i gwrdd â nodau’r Strategaeth.
  5. Gwella proffil diogelwch cymunedol a gwaith y Bartneriaeth yn lleol  gyda’r nod o wneud Sir Gâr yn lle diogelach fyth i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi.

Tudalen Gwefan CCC

E-bost: diogelwchcymunedol@sirgar.gov.uk; Ffôn 01554 742211.

Ymgynghoriad: Gweithredu ar Dlodi Plant

Ymgynghori ar Gytundeb ar y Cyd gwirfoddol ar Dlodi Plant a deddfwriaeth arfaethedig. Dyddiad cychwyn yr ymgynghoriad: 11/06/2008.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn cyflwyno cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gweithredu ar dlodi plant. Mae hyn yn cynnwys gwneud deddfwriaeth newydd i roi dyletswydd ar asiantaethau cyhoeddus mewn perthynas â thlodi plant, i ddarparu lleoedd gofal plant am ddim a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill mewn mannau penodol, i gyfateb i ganllawiau darparu grant Cymorth ac i gyflwyno strategaeth i gefnogi plant sy'n agored i niwed. Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys Cytundeb ar y Cyd drafft gwirfoddol ar dlodi plant sy'n nodi ymrwymiad asiantaethau cyhoeddus i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda'i hamcanion o ran tlodi plant.
Tudalen Gwefan LCC

Diwedd yr ymgynghoriad: 30/09/2008

Danfonwch eich ymatebion drwy e-bost i: Joanne.glenn@cymru.gsi.gov.uk neu drwy'r post i: Joanne Glenn, Uned Tlodi Plant, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ; Ffôn 01685 729320.

Ymgynghoriad: NEET - Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r ddogfen hon yn ymgynghori ynghylch cynlluniau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae’n rhan o gyfres o bapurau thematig sy’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud â sgiliau a nodwyd yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, y strategaeth ddrafft ar sgiliau a chyflogaeth. Mae’r papur yn berthnasol hefyd i fersiwn ddrafft Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (2008).
Tudalen Gwefan LCC
Dylid anfon ymatebion i’r ddogfen ymgynghori ddrafft hon erbyn 11 Awst 2008 at Ella Davidoff yn y cyfeiriad isod neu eu hanfon yn electronig drwy’r e-bost at reducingneet@wales.gsi.gov.uk

Ella Davidoff, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Tyˆ’r Llyn, Parc Busnes Waterside, Clos Llyn Cwm, Parc Menter Abertawe, Abertawe SA6 8AH; Ffôn: 01792 765828; Ffacs: 01792 765803.

Ymgynghoriad: Strategaeth Ddrafft Cymru ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau, Creu Cymdeithas ar gyfer Pob Oed

Yn dilyn cyfnod ymgynghori cychwynnol, dymuna Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach ymgynghori’n ffurfiol ar y Ddogfen Strategaeth ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau sydd ynghlwm. Fel dogfen ar bontio'r cenedlaethau, mae gennym ddiddordeb penodol ym marn grwpiau o blant a phobl ifanc a phobl hyn fel ei gilydd. Rydym yn gobeithio y bydd mudiadau a grwpiau yn achub ar y cyfle hwn i drefnu digwyddiadau ymgynghori ar bontio'r cenedlaethau er mwyn trafod y ddogfen.

Roedd yr Ymgynghoriad yn cychwyn ar 2il Mehefin 2008 ac yn dod i ben ar 30ain Awst 2008.

Tudalen Gwefan LCC

Iechyd Meddwl Cymru - A Well Being and Mental Health Service Fit For Wales

Papur ysgrifenwyd gan Yr Athro Michael Williams. Gofynwyd y papur hon gan Edwina Hart MBE AC, Y Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ei brif argymell yw ei fod corfforaeth corfforaethol ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru yn cael ei sefydlu.
Os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud arno, a fyddech cystal â’u hanfon atom erbyn 2 Medi – un ai drwy’r e-bost i mentalhealthyourviews@ wales.gsi.gov.uk neu yn y post i Eich Sylwadau ar:
Iechyd Meddwl, Y Gangen Polisi Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Y Cynllun Bathodyn Glas - Beth yw eich barn?

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas, sy'n rhoi consesiynau parcio i bobl ddall a phobl anabl, yn mynd i gael ei ddiwygio - ac rydyn ni am gael eich sylwadau chi. Lansiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 11 Mehefin 2008, bydd papur ymgynghori yn gofyn am farn y cyhoedd ar sut i wella'r gwaith o weinyddu a gorfodi'r cynllun.

Mae'r papur yn cynnwys nifer o gynigion:

  1. gwella dyluniad y bathodyn
  2. creu system genedlaethol i rannu gwybodaeth
  3. rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw gael dileu bathodynnau sydd wedi'u dwyn neu sydd wedi mynd ar goll
  4. cynyddu'r ffi
  5. lansio ymgyrch i hybu gwybodaeth ymhlith y cyhoedd

Bydd yr holl sylwadau sy'n cael eu cyflwyno yn help i ddatblygu strategaeth ddiwygio, gan ddod â'r cynllun yn nes at newidiadau diweddar yn yr Alban ac yn Lloegr.

Mae pawb sydd â diddordeb ynddo'n cael eu gwahodd i anfon eu sylwadau ar y cynigion erbyn dydd Mawrth 2 Medi 2008.

Mae'r manylion am sut i anfon eich ymateb yn y ddogfen ymgynghori.

Tudalen Gwefan LLL

Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i lunio Strategaeth Ddiwygio gynhwysfawr i'r Bathodyn Glas, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2009.
Nod y Strategaeth Ddiwygio yw amlinellu cynlluniau i foderneiddio'r Cynllun, trwy ei weinyddu'n fwy effeithiol, atal twyll, a sicrhau ei fod yn hawdd ei ddeall.  Bydd y pecyn yn un cynhwysfawr sy'n cynnwys cymhwysedd, consesiynau, gweinyddu a gorfodi.  Bydd hyn yn sicrhau bod y Cynllun yn parhau i helpu pobl sydd â phroblemau symudedd dwys.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales