Lawrlwythwch yr Adroddiad yr Arolwg yma >> (4MB pdf)
========================================
Cefndir
Ar ddechrau 2006, fe gynhaliodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (y WCVA) arolwg o Wasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (IGCaLl) y Sector Gwirfoddol ledled Cymru, gan gynnwys Sir Gâr.
Mae'r WCVA wedi rhannu'r wybodaeth a gasglwyd ganddynt ac, erbyn hyn, mae CAVS yn cynnal arolwg dilynol yn Sir Gâr, mewn partneriaeth â Phartneriaeth IGCaLl Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin, WWAMH, a Gofal Cymdeithasol a Thai Sir Gaerfyrddin.
Dosbarthu'r holiaduron dilynol ganol mis Awst i'w dychwelyd ganol mis Medi
Mae'r holiaduron yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd, gan ddilyn ymlaen gyda mudiadau sydd wedi ymateb i arolwg gyntaf y WCVA. Fe fyddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth gan grwpiau sydd, efallai, heb eu cynnwys yn arolwg y WCVA. Rydyn ni'n gofyn am i'r holiaduron gael eu dychwelyd erbyn Dydd Gwener, Medi 15fed 2006.
Cwmpas arolwg y WCVA
Cwmpas yr arolwg dilynol
Canlyniadau'r ddau arolwg
Cwmpas arolwg y WCVA
- Natur a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir
- Cyllidebau gwasanaethau a ddarperir
- Ffynonellau nawdd
- Aelodau'r gweithlu sy'n cael cyflog ac aelodau gwirfoddol, a'r oriau y maen nhw'n eu gweithio
- Gweithgareddau gwirfoddolwyr
- Gwerth ychwanegol darpariaeth gwasanaeth y sector gwirfoddol
- Effaith economaidd.
Cwmpas yr arolwg dilynol
- Niferoedd y bobl a gafodd help / sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau / gweithgareddau, a ble maen nhw'n byw (i gael gorolwg o ardaloedd daearyddol nad ydynt eisoes yn cael eu cynnwys yn y gwasanaethau).
- Cynlluniau sydd gan grŵp gwirfoddol / cymunedol i ymestyn (h.y. gwneud mwy o'r un peth) neu greu prosiectau / gwasanaethau newydd.
- Y rhwystrau, os oes rhwystrau, i ddatblygu gwasanaethau newydd.
- Sut mae defnyddwyr gwasanaethau / aelodau yn gwybod am fudiadau.
- A yw mudiadau'n ymwybodol o Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Gaerfyrddin 2005-2008, a sut mae eu gwasanaethau cyfredol / sut bydd eu gwasanaethau sydd wedi eu cynllunio yn helpu cyflwyno'r strategaeth.
- Beth yw'r canfyddiad o lefel gyffredinol y ddealltwriaeth o'r sector gwirfoddol ymhlith y Bwrdd Iechyd Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Canlyniadau'r ddau arolwg
Defnyddir canlyniadau'r ddau arolwg i:
- Lunio cyfeirlyfr o wasanaethau'r sector gwirfoddol lleol
- Bwydo'r broses o gynllunio a datblygu gwasanaethau sydd wedi eu blaenoriaethu yn Strategaeth IGCaLl Sir Gaerfyrddin 2005-2008.
Nôl i'r brig




