Mae’r cyfeirlyfr yma yn cynnwys ystôr o wybodaeth ar y gwaith partneriaethol eang sy’n cael ei gyflawni yn Sir Gaerfyrddin. Bwriedir y cyfeirlyfr fel arf ymarferol fydd yn darparu’r gwybodaeth mwyaf diweddar ar amrywiaeth, gorchwyl a manylion cyswllt y partneriaethau aml-asiantaethol sy’n gweithredu o fewn y Sir.
Mae’r ddogfen yma wedi ei seilio ar y cyfeirlyfr gwreiddiol, â gynhyrchwyd gan CAVS ar y cyd gyda Cyngor Sir Gâr a phartneriaid eraill yn Hydref 2003. Mae'r cyfeirlyfr yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol gan Tîm Cynllunio Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin (ffôn 01267 224659, ebost cynlluniocymunedol@sirgar.gov.uk).
Mae’r cyfeirlyfr yn cynnwys y gwybodaeth canlynol:
- Diagramau strwythur cynllunio cymunedol a'r partneriaethau
- Disgrifiadau a manylion cyswllt ar gyfer y partneriaethau sydd â rôl strategol neu ymgynghorol
- Adrannau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Dysgu Gydol Oes, Adfywio, yr Amgylchedd a Chymunedau Mwy Diogel
- Aelodaeth pob partneriaeth
- Y strategaethau neu gynlluniau allweddol sy’n arwain gwaith y bartneriaeth
- Trefn cyfarfodydd
- Trefniadau ar gyfer cynrychioli’r sector gwirfoddol ac adrodd yn ôl
- Canllawiau i sicrhau bod partneriaethau yn gweithio ar eich cyfer chi