Rhamant Pur - Gwaith Partneriaeth gyda'r Sector Gwirfoddol
Comisiynwyd y canllawiau hyn gan Grwp Llywio Cynllunio Cymunedol Sir Gaerfyrddin i gydnabod yr angen i gynnwys grwpiau a mudiadau gwirfoddol ym mhob agwedd o'r broses Gynllunio Cymunedol, mewn modd gyson, teg, agored ac effeithiol. Lluniwyd y dogfen gan Vicky Smith (Rheolwr Partneriaeth CAVS hyd at Ionawr 2004).
Cynlluniwyd y canllawiau i fod yn offeryn ymarferol ar gyfer unrhyw un sydd â'r dasg o gynnwys mudiadau a grwpiau gwirfoddol mewn Cynllunio Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n rhoi cyfarwyddyd ar ble i ddechrau a'r hyn a ddylai fod yn digwydd, fel bod yr holl bartneriaid, yn y sector statudol a gwirfoddol, yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan waith partneriaeth.
Yn ogystal ag esbonio beth yw'r sector gwirfoddol, a pham mae'n hanfodol cynnwys y sector gwirfoddol er mwyn cyflawni amcanion a thargedau mewn Cynllunio Cymunedol, mae'r Canllawiau yn amlinellu Fframwaith ar gyfer cynnwys y sector gwirfoddol fel bod modd deall gwahanol dasgau a chanlyniadau gwaith partneriaeth sy'n rhan o Gynllunio Cymunedol.