Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Rhoi trwy'r gyflogres :

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cris, CAVS Ffôn 01267 236367, ebost cris@cavs.org.uk

Ynglyn â Rhoi Trwy'r Gyflogres

Beth yw Rhoi Trwy'r Gyflogres?

Mae Rhoi Trwy'r Gyflogres yn ffordd syml, sy'n effeithiol o ran treth, i weithwyr gyfrannu at elusen o'u cyflog gros.

Pan fydd y cyflogwr yn cynnig Rhoi Trwy'r Gyflogres, mae'r gweithiwr yn awdurdodi'r cyflogwr i dynnu cyfraniadau elusennol rheolaidd o'u cyflog. Yna, mae'r cyflogwr yn talu'r cyfraniadau hyn at Asiantaeth Rhoi Trwy'r Gyflogres a gymeradwywyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.  Fe fydd yr asiantaeth yn dosbarthu'r arian at yr elusen/elusennau a ddewisir gan y gweithiwr.

Mae gan Rhoi Trwy'r Gyflogres y potensial i gynnwys mwy o weithwyr nag unrhyw fenter godi arian arall sy'n seiliedig yn y gwaith, ac i godi cannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer elusennau ledled Cymru, yn enwedig yn Sir Gâr.


Beth yw'r Manteision?

Mae'r didyniadau y cytunwyd i'r cyflogwr eu tynnu o gyflog y gweithiwr yn cael eu tynnu cyn treth, sy'n golygu bod y cymorth treth wedi'i gynnwys yn y rhodd ar y gyfradd dreth uchaf y mae'r gweithiwr yn ei thalu. Er enghraifft:


Gweithiwr yn rhoi i Elusen (Gros)

Cost go iawn i'r Gweithiwr -Treth 22%

Cost go iawn i'r Gweithiwr -Treth 40%

£5.00

£3.90

£3.00

£10.00

£7.80

£6.00


Prif fantais Rhoi Trwy'r Gyflogres yw creu llif rheolaidd o arian er lles elusen/elusennau a ddewiswyd.  Mae hwn yn incwm heb gyfyngiadau y gall yr elusen ei ddefnyddio fel nawdd craidd.


Rhaglen Grantiau Rhoi Trwy'r Gyflogres

Lansiwyd menter newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig – rhaglen Grantiau Rhoi Trwy'r Gyflogres – yn Ionawr 2005.  Gweinyddir a hybir y rhaglen gan Institute of Fundraising, gyda nawdd gan y Swyddfa Gartref a chymorth gan Busnes yn y Gymuned.

CYNLLUN DYFARNIADAU NEWYDD: Yn Ionawr 2006 fe lansiodd y Swyddfa Gartref gynllun Marc Ansawdd newydd, gyda dyfarniadau aur, arian ac efydd, sy'n cydnabod elusennau a busnesau am gynnig cynlluniau Rhoi Trwy'r Gyflogres i staff, ac yn eu gwobrwyo.

Mae'r rhaglen yn cynnwys dwy ran:

Rhan 1: Grant unwaith yn unig o rwng £300 a £500 i fentrau bach a chanolig (SMEs) sy'n sefydlu Rhoi Trwy'r Gyflogres cyn Rhagfyr 2006.  Mae unrhyw gyflogwr, busnes neu elusen yn gymwys ar gyfer y grant tra bod ganddo/ganddi lai na 500 gweithiwr.


Nifer o weithwyr

Grant

1-199

£300

200-249

£400

250-499

£500


Rhan 2:
Rhoddion cyfatebol o hyd at £10 i bob gweithiwr bob mis, am y chwe mis cyntaf wedi iddynt gofrestru gyda'r cynllun, hyd nes Mawrth 31 2007.

Mae hyn yn golygu y byddai rhoi £10 bob mis werth cymaint ag £20 i'r elusen ond yn costio £7.80 i'r gweithiwr sy'n talu treth incwm cyfradd sylfaenol (£6 i drethdalwyr cyfradd uwch).  Mae hyn yn golygu bod hyd at £60 ychwanegol fesul gweithiwr yn mynd at elusen o'u dewis.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Rhaglen Grantiau Rhoi Trwy'r Gyflogres, cliciwch ar www.payrollgivinggrants.org.uk

 

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales