Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Rhoi trwy'r gyflogres :

www.rhoisirgar.org.uk

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cris, CAVS Ffôn 01267 236367, ebost cris@cavs.org.uk

Lansio Partneriaeth Consortiwm Rhoi Trwy’r Gyflogres Sir Gâr

Photo of members attending launchMae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) wedi lansio Partneriaeth Rhoi Trwy’r Gyflogres Sir Gâr, sef ymagwedd arloesol at godi arian sy’n anelu at gadw’r ‘rhoi’ yn Sir Gâr.

Fe fydd yr elusennau sy’n aelodau yn creu partneriaeth sy’n cynnig mwy o ddychweliad i fusnesau ac i bobl sydd am gyfrannu am eu rhoddion. Fe fydd cefnogwyr yn gwybod y bydd eu buddsoddiad yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng amrywiaeth o elusennau yn y sir, gan sicrhau y ceir yr effaith pennaf posib ar gymunedau lleol.

Fe fydd pob un o’r elusennau sy’n aelodau o’r consortiwm yn buddsoddi yn y prosiect, gan elwa yn y tymor hirach o gyfraniadau gan weithwyr a’u cyflogwyr sy’n rhan o Rhoi Trwy’r Gyflogres a dulliau eraill o godi arian.

Mae CAVS wedi llwyddo i sicrhau £60,000 o nawdd gan gynllun grant Y Ddraig Gudd Cyngor Sir Gâr i sbarduno a datblygu’r rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf. Mae CAVS yn penodi swyddog codi arian llawn amser a gweinyddwr rhan amser i ddatblygu’r prosiect cyffrous.

Fe ddywedodd Rheolwr Busnes CAVS, Cris Tomos, “Mae CAVS mewn sefyllfa ddelfrydol fel cyngor gwirfoddol sirol Sir Gâr, i yrru’r prosiect yn ei flaen ac i ddatblygu cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac elusennau lleol”.

Lansiwyd y consortiwm mewn da bryd er mwyn i fusnesau lleol ac elusennau sy’n aelodau fanteisio i’r eithaf ar gynllun grant Rhoi Trwy’r Gyflogres y Swyddfa Gartref, ac ennill hyd at £500 fel grant unwaith-yn-unig i sefydlu cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres. Ond fe fydd yn rhaid i fusnesau a grwpiau gofrestru’n gyflym oherwydd mae’r cynllun grant yn cau ddiwedd mis Rhagfyr 2006.

“Mae Rhoi Trwy’r Gyflogres yn dod yn fwy a mwy llewyrchus wrth i fusnesau gynnig cymorth cymunedol brwdfrydig trwy feithrin diwylliant o roi o fewn eu gweithleoedd. Mae rhoddion o gyflogres y gweithiwr yn dreth-effeithiol, sy’n ysgogiad go iawn i roi, oherwydd mae’n costio llai iddyn nhw, ac yn aml mae codi arian yn y ffordd hon yn arwain at gyfranwyr newydd a chyfleoedd pellach i godi arian,” meddai Iestyn Evans o’r WCVA.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar fenter Sir Gâr oddi ar wefan CAVS, www.cavs.org.uk, ac mae yna wybodaeth genedlaethol ychwanegol ynghylch rhoi trwy’r gyflogres ar wefan y WCVA, www.wcva.org.uk.

Picture: [From back left] Cris Tomos (CAVS), Iestyn Evans (WCVA), Peter Loughran (CAVS), Dot Griew (Institute of Fundraising), Helen Watts (Hidden Dragon Scheme), Mary Lythgoe (Swansea Charity Partnership)

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales