Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Cefnogaeth ar gyfer grwpiau :

Estyn Llaw

Ffôn 01239 711668

Ebost elin.mair@cwmni-iaith.com

www.estynllaw.org

Dwyieithrwydd

Cynllun Estyn Llaw

Sefydlwyd Cynllun Estyn Llaw yn 2000 er mwyn cefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu dwyieithrwydd ac er mwyn hybu gwirfoddoli ymysg siaradwyr Cymraeg.

Gall Estyn Llaw gynnig cyngor, cefnogaeth ac hyfforddiant i fudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae’r Cynllun hefyd yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth ymysg siaradwyr Cymraeg am gyfleoedd gwirfoddoli ffurfiol gyda mudiadau sydd yn brin o wirfoddolwyr dwyieithog.

Mae gwaith Estyn Llaw yn rhan o agenda ehangach i sicrhau y cynigir dewis iaith Gymraeg effeithiol i’r cyhoedd ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Noddir y Cynllun gan gyrff cyhoeddus a derbynnir grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Fe’i rheolir gan Iaith Cyf.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Elin Mair Griffiths, Swyddog Prosiect Estyn Llaw, Uned 3, Parc Busnes Aberarad, Castell Newydd Emlyn, SA38 9DB. Ffôn 01239 711668 Ebost elin.mair@cwmni-iaith.com, gwefan www.estynllaw.org.

 

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales