Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Cefnogaeth ar gyfer grwpiau :

Ffôn 01554 777801 neu anfon ebost a y tîm at Cysllwt Sir Gaerfyrddin

Chris Lewis - Cydlynydd Prosiect
Symudol: 07791 506134
Ebost: chris@cyswllt sirgaerfyrddin.org.uk

Ran Foster-Mason - Swyddog Maes /Marchnata
Symudol:
07791 506628
Ebost: ran@cyswllt sirgaerfyrddin.org.uk

Karlis Ozolins - Swyddog Maes /Meistr Gwefan/ Dylunwyr
Symudol: 07791 506607 Ebost: karlis@cyswllt sirgaerfyrddin.org.uk

Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn brosiect gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) ac yn cael ei ariannu gan Cymunedau @Ei Gilydd.

Communities @One logo

Cyswllt Sir Gaerfyrddin ~ Cysylltu Eich Cymuned Ar-lein!

Carmarthenshire Connect LogoBeth yw Cyswllt Sir Gaerfyrddin?

Mae Cyswllt Sir Gaerfyrddin yn gyfle cyffrous i grwpiau cymunedol ac unigolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gâr rannu eu newyddion, gweithgareddau a diddordebau trwy gyhoeddi lluniau, fideos a chlipiau sain ar wefan arbennig a elwir yn 'blog'.  Y newyddion da yw bod Tîm Cyswllt Sir Gaerfyrddin yma i ddangos i chi sut i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn i helpu eich grŵp  (mae hefyd yn rhad ac am ddim!).

Beth yw blog?

Os nad ydych chi wedi dod ar draws blog o'r blaen, mae fel dyddiadur ar-lein - rhywle i adrodd eich stori.  Y peth da am ei gadw ar-lein yw fod pobl eraill yn gallu ei ddarllen ac rydych chi'n gallu ychwanegu lluniau, fideos a sain.  Mae'n ffordd wych o hyrwyddo eich grŵp a'i weithgareddau. Felly, sut ydyn ni'n cymryd y lluniau a'r fideos hyn? Rydyn ni’n defnyddio ffôn symudol, oherwydd mae gan lawer ohonyn nhw gamerâu sy'n hwylus ac yn gyfleus i'w defnyddio. Ond mae camerâu digidol yn gweithio'n dda hefyd. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi defnyddio blog o'r blaen – mae'r tîm yma i'ch helpu.

Sut ydw i'n gallu bod yn rhan o'r prosiect?

Mae yna ffyrdd gwahanol o gymryd rhan ac fe allwch chi ychwanegu cymaint, neu gyn lleied ag y dymunwch at y blog. Fe allwch chi e-bostio eich newyddion at y tîm er mwyn iddyn nhw ei gyhoeddi, neu fe allwch chi gael eich cyfrif eich hun er mwyn i chi flogio pan fyddwch chi eisiau. Mae'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn dibynnu ar eich grŵp ac ar ba mor bell yr ydych chi eisiau datblygu. Beth bynnag yr ydych chi am ei wneud, fe fydd tîm Cyswllt Sir Gaerfyrddin yma i'ch cefnogi chi ar bob cam.

Dw i eisiau gwybod mwy!

Os ydych chi'n grŵp cymunedol mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac rydych chi am i ni ddangos i chi sut mae'r blog yn gweithio a beth allai ei wneud ar gyfer eich grŵp chi, ffoniwch ni ar 01554 777801 neu anfonwch e-bost at y tîm, at Cysllwt Sir Gaerfyrddin

Ymweld â'r wefan www.cyswlltsirgaerfyrddin.org.uk.

Dyma ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Sir Gâr: Glanymor, Tyisha, Llwynhendy, Felinfoel, Pantyffynnon a Dyffryn Aman Uchaf

 

DIGWYDDIADAU TGCh ~ rhad ac am ddim!

Dysgu sut i greu blog, bod yn ddiogel ar-lein a chael meddalwedd am ddim ar gyfer eich cyfririadur!

19 Chwefror 2008 ~ Canolfan Gymunedol ac Ieuenctid Bwlch

21 Chwefror 2008 ~ Canolfan Gymunedol Brynaman

26 Chwefror 2008 ~ Canolfan Addysg Gymunedol Felinfoel

2.30 yp i 5.30 yp

I gadw'ch lle, naill ai:

Anfonwch y daflen hon at CAVS, Vauxhall Buildings, Vauxhall, LLANELLI, SA15 3BD

Lawrlwythwch ffurflen yma

neu llenwch y ffurflen gadw'ch lle ar-lein yn www.carmsconnect.org.uk/events

neu ffoniwch y swyddfa ar 01554 777801.

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales