Mae pedwar Cyngor Gwirfoddol Sirol wedi ffurfio Partneriaeth Ranbarthol yn Ne a Gorllewin Cymru i ddarparu cymorth technegol a help i ddatblygu TGCh ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf eu siroedd perthnasol.
Mae PAVS yn Sir Benfro, CAVS, CAVO yng Ngheredigion a VAMT ym Merthyr Tudful yn cydweithio ar y prosiect, a ariennir gan Cymunedau@Ei Gilydd.
www.walescvccircuitriders.org.uk
Enw’r prosiect yw Prosiect Cylchredwyr Technoleg CGS Cymru, ac fe fydd y swyddogion datblygu a chymorth technegol
- yn gwneud gwiriadau iechyd TGCh
- yn helpu gyda phob agwedd ar gyfathrebu digidol, gan gynnwys cynhyrchu gwefannau ac adnoddau clyweledol, ac
- yn helpu grwpiau i ddatblygu strategaethau TGCh.
Fe ddechreuodd y tîm cymorth Cylchredwyr Technoleg eu gwaith ym mis Ionawr 2007, ac maen nhw wedi bod yn brysur yn sefydlu’r holl systemau er mwyn darparu gwasanaeth cydlynol sydd ar flaen y datblygiadau ar gyfer grwpiau cymwys. Fe fyddan nhw’n helpu grwpiau o fis Mawrth 2007.
CYLCHREDWYR TECHNOLEG SIR GAERFYRDDIN
- Rachel Coope: Swyddog Cymorth Datblygu TGCh ar gyfer Sir Gâr a Cheredigion
- Matt Armitage: Swyddog Cymorth Technegol TGCh ar gyfer Sir Gâr
Am wybodaeth pellach cysylltwch â llinell cymorth Cylchredwr Technoleg 01437 771197.